 Dyfodiad
y Tuduriaid
a'r Ddeddf Uno

Richard III
Rhyfel y Rhos
Rhwng y 1450au a’r 1480au problem fawr coron Lloegr yw’r ymrafael
rhwng llinachau Lancaster a York. Disgynyddion trydydd mab Edward
III yw’r Lancastriaid. Y mae’r Iorciaid yn ddisgynyddion, trwy’r Mortimeriaid,
ail fab Edward a hefyd ei bedwerydd. Yn 1460 mae Harri VI, wyr Harri
IV, yn cael ei ddiorseddu gan Edward IV o linach York. Yn 1485 mae
brawd Edward, y trawsfeddiannwr Richard III, yn cael ei ddiorseddu
gan y Lancastriad Harri VII. Y mae Harri’n priodi merch Edward IV,
ac mae eu mab, Harri VIII, yn cynrychioli’r ddwy linach. Y mae’r ymrafael
yn cael effaith fawr ar Gymru. Ar y dechrau, beth bynnag, cadarnle’r
Lancastriaid yw Cymru, tra mae’r Mers, yn enwedig arglwyddiaethau’r
Mortimeriaid, yn ganolog i uchelgais y Iorciaid. Yn y diwedd, Harri
Tudur sy’n cario’r dydd, un o ddisgynyddion Edward III - yn Gymro
ar ochr ei fam, ac yn Ffrancwr ar ochr ei dad. Y Tuduriaid felly,
a’u cysylltiadau â hen dywysogion Cymru, yw ffocws newydd teyrngarwch
yr uchelwyr Cymreig.
Y Tuduriaid
Teulu’r Tuduriaid sy’n llywodraethu Lloegr (a Chymru - ac Iwerddon)
o 1485 i 1603. Y mae Harri VII yn dangos rhywfaint o barch tuag at
Gymru, ac mae gan ei wyres, Elisabeth I rhywfaint o gydymdeimlad tuag
at y wlad hefyd. Efallai mai presenoldeb y Tuduriaid ar orsedd Lloegr
yw’r rheswm pam fod y berthynas â’r Saeson yn fwy cymodlon yng Nghymru
nag oedd yn Iwerddon. Y brenin sy’n rheoli bron y cyfan o Gymru. Y
mae’n cadw Cyngor y Mers, a sefydlwyd yn Llwydlo gan Edward IV; y
mae’n dileu bileiniaeth yn y rhan fwyaf o’r gogledd, ond nid yw’n
gwneud fawr ddim arall. Y mae ef a’i fab yn dial ar rai o wyr amlwg
Cymru, gan gynnwys y teulu Stanley yn y gogledd-ddwyrain, Tý
Dinefwr yn y de-orllewin a dug Buckingham yn y de-ddwyrain.
Deddf 1536
Y
mae’r 1530au yn ddegawd tyngedfennol yn hanes tiriogaethau coron Lloegr.
Y mae Harri VIII a’i gynghorwr Thomas Cromwell, yn cefnu ar y Babaeth,
gan ei gwneud yn bosib y gallai cymdogion Catholig pwerus fygwth y
deyrnas. Trwy ddileu grym y Pab y mae Harri’n dangos pa mor benderfynol
ydoedd o gryfhau grym y goron ar hyd a lled ei deyrnas. Mae ei bolisïau
tuag at Gymru, yn enwedig dileu pwerau arglwyddi’r Mers, yn rhan o’r
un bwriad. Pasiwyd y Ddeddf Uno gyntaf - teitl a ddefnyddiwyd gyntaf
yn yr 20fed ganrif - yn 1536. Rhannwyd y Mers yn saith sir: Dinbych,
Fflint, Trefaldwyn, Maesyfed, Brycheiniog, Mynwy, Morgannwg a Phenfro.
Daw hyn â’r rhaniad rhwng y Dywysogaeth a’r Mers i ben. Cyfraith
Lloegr yw unig gyfraith Cymru, ac i’w gweinyddu penodir ynadon heddwch
ym mhob sir. Bydd gan Gymru 26 o aelodau i’w chynrychioli yn y Senedd.
|
 |

|