 Cymru a'r Rhufeiniaid

Amffitheatr Caerllion
Cymru ar drothwy goresgyniad y Rhufeiniaid
Mae lluoedd Rhufain yn cyrraedd ffiniau Cymru yn 48 OC, bum mlynedd
ar ôl iddynt ddechrau goresgyn Prydain. Wrth, gwrs nid yw Cymru’n
bod bryd hyn mewn unrhyw ystyr ystyrlon. Mae’r bobl, fel y mwyafrif
ym Mhrydain, yn siarad iaith Geltaidd, y Frythoneg, fyddai’n datblygu
i’r iaith Gymraeg maes o law. Bu pobl yn byw yng Nghymru am o leiaf
ddeng mil o flynyddoedd. Yn y ganrif gyntaf yr oedd o leiaf bum llwyth:
y Deceangliaid yn y gogledd-ddwyrain, yr Ordoficiaid yn y gogledd-orllewin,
y Demetiaid yn y de-orllewin, y Silwriaid yn y de-ddwyrain a’r Cornofiaid
yn y canolbarth.
Yr ymosodiadau cynnar
Y
mae’r Rhufeiniaid yn ymosod gyntaf ar draws Afon Dyfrdwy. Y bwriad
yw dod rhwng pobl ucheldir Cymru ac ucheldir y gogledd, sef gogledd
Lloegr yn ddiweddarach. O ganlyniad i ymgyrch 48 mae’r Deceangliaid
yn ildio. Y flwyddyn ganlynol, mae’r Rhufeiniaid yn gwahanu pobl
Cymru oddi wrth bobl de orllewin Prydain drwy godi caer bwysig yng
Nghaerloyw.
Y goresgyniad
Y mae milwyr Rhufain yn cael eu rhwystro gan y Silwriaid, dan arweiniad
Caradog, tywysog y Catuvellauni o Essex oedd wedi’u halltudio gan
y Rhufeiniaid. Yn 52 OC maent yn trechu lleng Rufeinig. Ond mae Caradog
yn cael ei ddal. Bu farw yn Rhufain tua 54 OC. Chwe blynedd yn ddiweddarach
y mae’r Rhufeiniaid yn ymosod ar Ynys Môn, cadarnle’r derwyddon, oedd
yn hybu’r gwrthwynebiad i’r Rhufeiniaid. Erbyn 75 yr oedd y Silwriaid
wedi cael eu gorchfygu, ac erbyn y 60au, ar ôl i’r Ordoficiaid gael
eu trechu, mae’r cyfan o’r hyn fyddai’n Gymru a Lloegr o dan reolaeth
y Rhufeiniaid.
Y drefn filwrol
Y
mae’r Rhufeiniaid yn rhannu eu talaith newydd, Britannia, yn ddau
- y tir isel ar gyfer y boblogaeth sifil, a’r tir uchel milwrol. Codwyd
caerau â lle i leng o hyd at chwe mil o ddynion yng Nghaer Efrog,
Caer a Chaerllion. Yng Nghymru, rhan o’r rhanbarth filwrol, y mae
o leiaf ddeg ar hugain o amddiffynfeydd atodol, o fewn taith diwrnod
i’w gilydd ar hyd ffyrdd syth.
Derbyn a gwrthod
Nid yw’r caerau’n cael eu defnyddio'n llawn am amser hir gan fod mwyafrif
pobl Cymru yn derbyn y drefn Rufeinig. Yr eithriad, mae’n ymddangos,
yw’r Ordoficiaid yn y canolbarth a’r gogledd orllewin. Yn y Fforwm
yn Rhufain heddiw y mae map mosäig anferth o’r Ymerodraeth Rufeinig;
nid yw tir yr Ordoficiaid yn rhan o’r Ymerodraeth. Er bod y Silwriaid
wedi herio awdurdod y Rhufeiniaid maent yn dod i fwynhau y bywyd Rhufeinig.
Er mai Caerllion, yn ôl pob tebyg, yw’r lle gorau yn Ewrop i werthfawrogi
cynllun caer Rufeinig, nid oedd angen cadw lleng gyfan yno ar ôl tua
120 OC.
Trefi a filâu
Y mae’r Rhufeiniaid yn sefydlu Venta Silurum (Caerwent), 12 milltir
i’r dwyrain o Gaerllion fel prif dref daleithiol y Silwriad. Mae’r
boblogaeth yn codi i ryw dair mil. Mae’n fersiwn bychan o Rufain,
gyda’i basilica, fforwm, baddonau, temlau, y tai â’u gwres canolog,
murluniau a lloriau mosäig. Mae’n bosib bod Maridinum (Caerfyrddin)
yn brif dref i lwyth y Demetiaid. Rhufeinig hefyd yw’r filâu, a thai
bonedd yr uchelwyr brodorol oedd wedi derbyn y drefn Rufeinig. Gwelir
un yn Llanilltud Fawr, un arall yn Nhrelái ger Caerdydd ac o leiaf
dri yng nghyffiniau Caerwent.
|
 |

|