 Tywysogaeth
Cymru

Brenin John yn llofnodi'r Magna Carta
Cymru ar ddechrau’r 13eg ganrif
Yn 1200 Cymru, a defnyddio hen enwau’r siroedd, roedd y Mers yn cynnwys
rhannau o Fflint a Threfaldwyn, y rhan fwyaf o Faesyfed, Brycheiniog
a Morgannwg, bron y cyfan o Sir Fynwy, de Caerfyrddin, a bron y cyfan
o Sir Benfro. Y prif deuluoedd yn y cyfnod yma yw Breos, Mortimer,
Fiztalan a Marshall. Yn Pura Walia mae gwyr amlwg y 12fed ganrif -
Madog o Bowys, Owain o Wynedd a Rhys o’r Deheubarth - wedi ymadael.
Rhannwyd Powys rhwng dwy gangen o’r teulu oedd yn ben. Enwyd y rhan
ogleddol (dwyrain Meirionydd a de Dinbych a Sir Fflint) yn Powys Fadog,
a’r rhan ddeheuol (sir Drefaldwyn) yn Powys Wenwynwyn. Y mae Deheubarth
ar fin ymrannu hefyd oherwydd rhai digon cecrus yw meibion yr Arglwydd
Rhys. Yng Ngwynedd mae Llywelyn, wyr Owain Gwynedd ar fin adfer grym
ei daid.
Llywelyn Fawr
Yn 1205 mae Llywelyn yn priodi Joan (Siwan), plentyn siawns, John,
Brenin Lloegr. Erbyn hyn fe sydd ben yng Ngwynedd. Y mae’n ennill
tir yn y de, gan gipio Powys Wenwynwyn a gogledd Ceredigion.
Mae John yn anfon milwyr i Wynedd ac mae Joan yn llwyddo i sicrhau
heddwch rhwng ei thad a’i gwr. Y mae trafferthion John, sy’n arwain
yn 1215 at selio’r Magna Carta, yn rhoi cyfle i Llywelyn gipio’r cestyll
brenhinol, yn eu plith Caerfyrddin ac Aberteifi. Yn 1216 y mae’n trefnu
cyfarfod o’r arweinwyr Cymreig yn Aberdyfi, lle mae’n cael ei gydnabod
yn ben arnynt. Yn 1218, drwy Gytundeb Caerwrangon, y mae brenin Lloegr
yn cydnabod ei safle. Wedi hynny, nid yw ei safle’n cael ei herio
fawr ddim. Bu farw yn 1240 ac fe fyddai’n cael ei gydnabod fel Llywelyn
Fawr.
Problem ei olynydd
Un mab sydd gan Llywelyn a Joan, Dafydd. Y mae gan Llywelyn fab arall,
Gruffudd, ond mae’n benderfynol mai ei blentyn cyfreithlon fydd yn
etifeddu’r dywysogaeth i gyd. Cyn ei farw y mae’r Pab, brenin Lloegr
a’r tywysogion llai yng Nghymru yn cydnabod Dafydd fel etifedd Llywelyn.
Pan gaiff ei gyfle mae Dafydd yn cael bod ei ewythr, Henry III, brenin
Lloegr, yn barod i’w gydnabod fel Tywysog Gwynedd. Ond nid yw’n fodlon
iddo gael yr un hawliau a’i dad. Yn 1246, cyn i’r materion hyn gael
eu datrys, bu farw Dafydd, yn ddi-blant. Ei feibion sy’n etifeddu
grym yng Ngwynedd. Yr amlycaf ohonynt yw Llywelyn. Y mae Henry’n ceisio
cyfyngu ar eu hawdurdod; ei fwriad yw trawsnewid yr hen deyrnasoedd
o fod yn bobl ar wahân i fod yn ddim amgen i arglwyddi cyffredin teyrnas
Lloegr.
Llywelyn ap Gruffudd
Erbyn 1256 mae Llywelyn wedi disodli ei frodyr. Y mae’n dechrau ar
ymgyrchoedd tebyg i rai ei daid. Mae’n ennill cefnogaeth arglwyddi
Powys Fadog, yn cipio Powys Wenwynwyn, gan sicrhau bod awdurdod y
Deheubarth yn nwylo’r rhai sy’n deyrngar iddo. Nid dim ond arweinydd
Pura Walia, ond ei arglwydd hefyd. Erbyn 1258 mae’n galw’i hunan yn
dywysog Gwynedd a hefyd yn dywysog Cymru. Ond er sicrhau ei hygrededd
rhaid iddo hefyd gael ei gydnabod yn arglwydd Marchia Wallie. Yn 1263
mae’n arwain ei luoedd i ganol y Gororau ac yn cael ei groesawu gan
Gymry Aberhonddu, y Fenni ac ucheldir Morgannwg. Y mae gwrthryfel
y Barwniaid yn Lloegr yn gymorth iddo. Arweinydd y gwrthryfel yw Simon
de Montfort, ac mae e’n ffurfio cynghrair â Llywelyn yn 1264.
Dair blynedd yn ddiweddarach, yng Nghytundeb Trefaldwyn, mae Henry
III yn cydnabod Llywelyn yn dywysog Cymru, ac mae Llywelyn yn ymateb
drwy gydnabod brenin Lloegr yn benarglwydd. Bydd y tywysog yn arglwydd
dros y mân arweinwyr Cymreig. Bydd yn cael rheoli ardal yn ymestyn
o ffiniau Powys i Aberhonddu, a thros Gymry ucheldir Morgannwg a Gwent.
|
 |

|