|  |
 Twf
y Blaid Lafur

Castell Cyfarthfa
Anniddigrwydd y Werin
Erbyn dechrau’r 20fed ganrif, dim ond 10% o’r boblogaeth sy’n dibynnu
ar amaethyddiaeth, ac mae Cymru’n amlwg yn wlad ddiwydiannol. Er bod
Lloegr a’r Alban yr un mor ddiwydiannol mae’r dosbarth canol yng Nghymru
yn llai, a gellir dadlau mai Cymru yw’r wlad broletaraidd gyntaf yn
y byd. Erbyn hyn mae yng Nghymru draddodiad hir o brotestio ymhlith
y dosbarth gweithiol. Bu helyntion difrifol yn Nhredegar yn 1816,
ac roedd y Teirw Scotch - grwp yn ceisio uno’r dosbarth gweithiol
trwy drais - yn amlwg iawn yn enwedig yn Sir Fynwy. Gwrthrych llawer
o’r protestio yw’r meistri haearn a’u gafael tyn ar fywydau’r gweithwyr.
Y meistri haearn yw’r cyflogwyr, nhw hefyd yw’r landlordiaid, perchnogion
y siopau bwyd, yn rheoli hynny o lywodraeth leol sy’n bodoli, a hefyd
mewn rhai achosion, yn ynadon lleol. Merthyr
Tudful yn 1831 yw lleoliad y gwrthryfel gwaethaf i’w weld ym Mhrydain
yn y 19eg ganrif. Un rheswm am y gwrthryfel yw’r ansefydlogrwydd a
grëwyd gan y galw am ddiwygio’r senedd. Ond yn y bôn, y rheswm am
y gwrthryfel yw profiadau unigryw y Cymry o’r chwyldro diwydiannol.
Cafodd o leiaf ugain eu lladd y tu allan i westy’r Castell yn y dref.
Mae gwrthryfel y Siartwyr yn 1839 yr un mor waedlyd. Roedd y Siartwyr
yn galw am bleidlais i bob dyn. Trefnwyd gorymdaith i Gasnewydd, yn
rhannol i brotestio ond yn rhannol hefyd yn ymgais i achosi chwyldro.
Cafodd o leiaf ugain eu lladd ger Gwesty Westgate, a chafodd yr arweinwyr
eu halltudio, gan gynnwys John Frost, a fu ar un adeg yn faer y dref.
Undebau Llafur
Yn ôl yr hanesydd, Gwyn Alfred Williams, daeth cyfnod cyntefig y dosbarth
gweithiol Cymreig i ben adeg terfysg Merthyr. Mae yna bwyslais o hynny
ymlaen ar drefniadaeth. Daeth undebaeth llafur i Gymru yn 1830 pan
ymunodd glowyr Sir y Fflint â’r Friendly Associated Coalminers
Union; ffurfiwyd undeb ym Merthyr flwyddyn yn ddiweddarach. Hanes
cymysg sydd i undebaeth yn yr hanner can mlynedd sy’n dilyn. Aflwyddiannus
fu ymdrechion Robert Owen o’r Drenewydd i greu un mudiad i’r dosbarth
gweithiol (1834). Ffurfiwyd undebau i’r crefftwyr yn y 1850au, ond
ar gyfer math arbennig o weithwyr yn unig. Ar
ddechrau’r 1870au mae’r glowyr yn ceisio ffurfio undeb effeithlon,
ond yn aflwyddiannus oherwydd gwrthwynebiad y cyflogwyr. Yn y degawd
sy’n dilyn mae undebau lleol yn cael eu sefydlu, yn enwedig yng Nghwm
Rhondda, diolch i bobl fel William Abraham (Mabon). Daeth Undebaeth
Newydd i’r amlwg ar ddechrau’r 1880au, yn enwedig ymhlith y docwyr
a gweithwyr y rheilffyrdd. Ond o gofio pwysigrwydd glo yng Nghymru,
y datblygiad allweddol yw ffurfio Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn 1898.
Nid iddynt hwy ddulliau cymedrol arweinwyr megis Mabon. Maes o law
fe fydd aelodaeth yr undeb yn fwy nag unrhyw sefydliad secwlar arall
yn hanes Cymru.
|
 |

|
 © MM
|
|
|
|
|