|  |
 Twf
Ymwybyddiaeth Genedlaethol

Rhan o Eglwys Loegr oedd yr Eglwys yng Nghymru
Cydnabod cenedligrwydd Cymreig yng nghanol y 19eg ganrif
Yn 1850 prin oedd y sefydliadau cenedlaethol Cymreig. Er bod y Methodistiaid
Calfinaidd â’u trefniadau ar wahân o fewn Cymru, y mae gan yr Eglwys
Wladol bedair esgobaeth yng Nghymru sy’n rhan o archesgobaeth Caer-gaint,
ac nid oes gan yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr gyrff canolog gwerth sôn
amdanynt. Mae sustem llysoedd Cymru - Y Sesiwn Fawr - yn cael ei diddymu
yn 1830, gan adael strwythurau cyfreithiol a gweinyddol Cymru yr un
fath yn union â rhai Lloegr. Ar wahân i Gymdeithas y Cymrodorion a
atgyfodwyd yn 1820 a Chymdeithas Archeolegol Cambrian a sefydlwyd
yn 1846, nid oes yr un sefydliad addysgol na diwylliannol cenedlaethol,
ac nid oes yr un gymdeithas economaidd na phroffesiynol sy’n cydnabod
undod y wlad. Ystyrir bod tair teyrnas o fewn y Deyrnas Unedig - Lloegr
(sy’n cynnwys tywysogaeth Cymru), yr Alban ag Iwerddon. Ac mae’r gred
yna’n cael ei hadlewyrchu ym maner yr undeb a’r faner frenhinol. Ni
fyddai llawer wedi cefnogi’r syniad bod yna bedair cenedl o fewn y
Deyrnas Unedig, a bod Cymru’n haeddu’i thrin yr un fath â chenhedloedd
eraill y Deyrnas. Yn ystod y ganrif sy’n dilyn mae hyn yn newid, ac
mae’n un o lwyddiannau mawr y Cymry.
Cenedlaetholdeb Cymreig yng nghanol
y 19eg ganrif
Er
efallai nad yw’n cael ei gydnabod, mae’n bod, ac i’r iaith Gymraeg
y mae’r diolch am hynny. Er na chafwyd cyfrifiad yn dangos faint oedd
yn siarad Cymraeg tan 1891, yr oedd o leiaf dri chwarter poblogaeth
y wlad yn siarad Cymraeg yn 1850, a’r mwyafrif yn uniaith Gymraeg.
Mae cryfder y Gymraeg i’w weld yn nifer y cyfnodolion Cymraeg oedd
yn cael eu cyhoeddi: yn 1866 mae pum cyfnodolyn chwarterol yn cael
eu cyhoeddi yn yr iaith, pump ar hugain o gyhoeddiadau misol ac wyth
yn wythnosol. Roedd cyfanswm y cylchrediad yn gant ac ugain o filoedd.
Byddai llyfrau barddoniaeth, yn enwedig rhai Ceiriog, yn gwerthu’n
dda - hyd at ddeg ar hugain o filoedd o gopïau. Mae Cymreictod yn
amlygu’i hunan mewn ffyrdd eraill hefyd. Mae i draddodiadau crefyddol
Cymreig eu nodweddion arbennig; felly hefyd trefniadau gosod a rhentu
eiddo yn ardaloedd gwledig Cymru o’u cymharu â Lloegr; y mae’r mudiadau
radical â’u nodweddion eu hunain; y mae cymunedau diwydiannol Cymru
yn unigryw. Roedd ymwelwyr â Chymru, teithwyr megis George Borrow,
yn argyhoeddedig eu bod nhw mewn gwlad â’i chymeriad arbennig ei hunan.
|
 |

|
 © MM
|
|
|
|
|