|  |
 Y
Diwygiad Protestannaidd

Morwyn Penrhys Crefydd yr oesoedd canol diweddar yng Nghymru
Yn yr hanner can mlynedd cyn y Diwygiad Protestannaidd yr oedd ymlyniad
y bobl at grefydd draddodiadol yn daer iawn. Yr oedd llawer o addoli
ar y Forwyn Fair. Codwyd eglwysi trefol nodedig yng Nghaerdydd, Dinbych
y Pysgod, Wrecsam a mannau eraill. Codwyd eglwysi dwy ale yn Nyffryn
Clwyd, ac mae cryn barch at ddelwau megis Morwyn Penrhys (Rhondda).
Eto, er mor boblogaidd yw arferion crefyddol y Cymry, nid oes iddynt
fawr o sylwedd deallusol. A chan mai prin o ran gallu yw’r Cymry all
warchod yr hen, a dim ond ambell un yn awyddus i anwesu’r newydd,
eu hymateb cyffredinol i newidiadau crefyddol yw derbyn yn swrth yr
hyn mae’r llywodraeth yn ei gyflwyno.
Torri’r cysylltiad â Rhufain
Erbyn diwedd y 1520au mae Harri VIII yn awyddus i ysgaru’i wraig Catherine
o Aragon er mwyn priodi Anne Boleyn. Dim ond y Pab all ganiatáu hynny,
ac nid yw’n awyddus i gythruddo nai Catherine, yr Ymerawdwr Siarl
V. Yn 1529 mae’r brenin yn cynnull senedd lle mae rhwydd hynt i unrhyw
un fynegi teimladau gwrth-babaeth. Dechreuwyd proses sydd â’i momentwm
ei hunan.
Erbyn 1535 mae Harri, gyda chymorth ei brif weinidog, Thomas Cromwell,
wedi sicrhau nifer o fesurau sy’n dileu awdurdod y Pab yn nhiriogaethau
coron Lloegr ac yn dyrchafu’r brenin yn ben ar Eglwys Loegr.
Rhagor o newidiadau crefyddol
Roedd y Diwygiad Protestannaidd wedi dechrau yn yr Almaen yn 1517,
ond nid torri’r cysylltiad â Rhufain er mwyn derbyn y grefydd Brotestannaidd
oedd bwriad Harri. Ei nod yw sicrhau i’w hunan y pwerau oedd gan
y Pab.
Y mae Protestaniaid yn cael eu herlyn. Llosgwyd Thomas Capper yng
Nghaerdydd yn 1542. Eto mae Harri’n hyrwyddo rhai polisïau lled Brotestannaidd,
yn benodol felly, mewn perthynas â mynachaeth. Rhwng 1536 a 1540 ymosodwyd
ar y tai crefydd. Yr oedd 47 ohonynt yng Nghymru, yn cynnwys mynachdai,
lleiandai, brodordai a chelloedd amrywiol. Yr oedd y bywyd mynachaidd
wedi bod yn ddilewyrch ers tro. Erbyn 1536 dim ond wyth deg pump o
fynachod oedd mewn tri ar ddeg o fynachlogydd Sistersaidd yng Nghymru
- ac yr oedd enw digon amheus gan rai ohonynt. Diddymwyd y mynachdai
nid oherwydd eu gwendidau ond am fod y brenin yn chwennych eu cyfoeth.
O ganlyniad i’r diddymiad y mae cannoedd o filoedd o erwau o dir Cymru
yn newid dwylo. Yr uchelwyr sydd ar eu hennill. Er enghraifft, fe
drosglwyddwyd Abaty Margam a’i diroedd i’r teulu Mansel, a’r teulu
Somerset o Rhaglan yn cael tiroedd Tyndyrn. Er bod rhai o dai’r Benedictiaid
yn troi’n eglwysi plwyf, y mae llawer o’r mynachlogydd yn troi’n adfeilion
- ergyd greulon i’r etifeddiaeth bensaernïol Gymreig.
Erbyn marwolaeth Harri’r VIII yn 1547, y mae newidiadau crefyddol
eraill wedi digwydd, yn fwyaf arbennig, dinistrio delweddau megis
yr un ym Mhenrhys ac atal y canolfannau pererindota. Yn 1539 mae’r
brenin yn caniatáu cyhoeddi’r Beibl yn Saesneg a chyhoeddwyd llyfr
gweddi Thomas Cranmer yn 1544. Ddwy flynedd yn ddiweddarach cyhoeddwyd
y llyfr Cymraeg cyntaf, gwaith John Prys, Aberhonddu. Ei gynnwys oedd
y Credo, Gweddi’r Arglwydd a’r Deg Gorchymyn. Dyma ddechreuad cyhoeddi
yn y Gymraeg.
Rhwng 1546 a 1660 cyhoeddwyd 108 o lyfrau Cymraeg, rhif bychan o’i
gymharu â’r llyfrau a gyhoeddwyd yn Saesneg neu Ffrangeg, ond nifer
sylweddol o’i gymharu â’r ieithoedd Celtaidd eraill. Yn y cyfnod yna
dim ond pedwar llyfr Gaeleg gafodd eu cyhoeddi a dim ond un ar ddeg
yn yr Wyddeleg.
|
 |

|
 © MM
|
|
|
|
|