|  |
 Capel
ac Eglwys

Tu fewn i gapel yn Aberteifi
Cyfrifiad crefydd 1851
Cynhaliwyd unig gyfrifiad crefydd Prydain yn 1851. Y mae’n dangos
bod lle i 898,442 o bobl yn addoldai Cymru, ac o’u dosbarthu fesul
canran: yr Eglwys Wladol, 32; y Methodistiaid Calfinaidd, 21; yr Annibynwyr,
20; Bedyddwyr, 13; Wesleaid, 12; eraill, 2. Nid yw cofnodi nifer yr
addolwyr mor hawdd. Fe ddwedir yn aml bod pedwar allan o bob pump
o bobl Cymru oedd yn mynychu lle o addoliad ar 30 Mawrth 1851 yng
nghapeli’r Anghydffurfwyr, ond gan fod yr Anghydffurfwyr yn tueddu
i fynychu mwy nag un gwasanaeth a’r Anglicaniaid yn mynychu un, y
mae hyn yn gor-bwysleisio cryfder Anghydffurfiaeth. Os oedd o leiaf
bumed rhan y boblogaeth yn mynychu’r Eglwys Wladol, a thros ddwy ran
o bump ddim yn mynychu lle o addoliad o gwbl, y mae’n anodd derbyn
bod mwyafrif pobl Cymru yn oes Victoria yn gapelwyr selog.
Enwadaeth
Y
mae twf yr enwadau Anghydffurfiol yn deillio o ddiwygiadau efengylaidd
y 18fed ganrif. Y mae’n mynd yn anos i’r Methodistiaid Calfinaidd
barhau fel mudiad o fewn Eglwys Loegr. Yn 1811 y maent yn ffurfio
enwad ar wahân ac yn mabwysiadu trefn Bresbyteraidd o lywodraeth eglwysig.
Y mae’n drefn ganolog, yn wahanol iawn i drefn yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr,
sy’n pwysleisio sofraniaeth yr eglwys leol. Y mae’r Methodistiaid
Wesleaidd - sy’n eitha lluosog yn y gogledd-ddwyrain ac yn yr ardaloedd
lle mae nifer o fewnfudwyr Seisnig yn byw - hefyd yn ymwrthod â’r
syniad o roi’r awdurdod yn nwylo’r eglwys leol. Ymhlith yr enwadau
eraill y mae’r Undodiaid a’r Crynwyr - y ddau yn cyfrannu llawer o
syniadau radicalaidd - a’r Mormoniaid, a oedd wedi dod yn gymharol
ddiweddar o America. Yn 1851 y Bedyddwyr yw’r enwad mwyaf yn Sir Fynwy,
yr Annibynwyr ym Morgannwg, Sir Gaerfyrddin a Sir Frycheiniog, yr
Eglwys Wladol yn Siroedd Penfro, Maesyfed, Trefaldwyn a’r Fflint,
a’r Methodistiaid Calfinaidd yn y pum sir arall.
Adfywiad yr Eglwys Wladol
Y
mae Anghydffurfiaeth yn llwyddo i ryw raddau oherwydd gwendid yr Eglwys
Wladol. Y mae’r sustem blwyfi yn feichus, a’i hesgobion a’i hoffeiriaid
yn Seisnig a difywyd. Yn y 19eg ganrif aed ati o ddifri i geisio adfywio’r
eglwys. Y mae Thomas Burgess, esgob Ty Ddewi rhwng 1803 a 1825, yn
sefydlu coleg yn Llanbedr Pont Steffan i hyfforddi clerigwyr Cymreig;
y mae’n dysgu’r Gymraeg ac yn cysylltu’r Eglwys â gweithgareddau diwylliannol
Cymreig. Yn y 1830au ad-drefnwyd gweinyddiaeth ac incwm yr Eglwys.
Y mae cefnogwyr yr Eglwys Wladol yn creu rhwydwaith o ysgolion elfennol
sy’n dysgu’r athrawiaeth Anglicanaidd; erbyn 1870 y mae mil o’r ysgolion
hyn yng Nghymru o’u cymharu â thri chant o ysgolion anenwadol. Cafodd
cannoedd o hen eglwysi eu hadnewyddu ac fe wnaed ymdrech lew i sicrhau
bod addoliad Anglicanaidd ar gael yn yr ardaloedd diwydiannol. Y mae
Mudiad Rhydychen, sy’n pwysleisio agweddau Catholigaidd Anglicaniaeth
yn dod a ‘phrydferthwch sancteiddrwydd’ Uchel Eglwysig i lawer cymuned
ddifreintiedig. Yr un pryd mae’r mudiad yn cryfhau teimladau wrth-Gatholig
llawer o Anghydffurfwyr a’r Isel Eglwyswyr, teimladau oedd eisoes
yn amlygu eu hunain tuag at fewnfudwyr o Iwerddon oedd yn chwyddo
rhengoedd yr Eglwys Gatholig Rufeinig.
|
 |

|
 © MM
|
|
|
|
|