 Diwylliant
a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar

Gerddi ffurfiol Aberglasni
Diwylliant llenyddol
Rhwng yr 16fed ganrif a’r 18fed ganrif y mae newidiadau cymdeithasol
a chrefyddol yn trawsnewid diwylliant llenyddol traddodiadol Cymru
o ganlyniad i’r wasg argraffu a syniadau’r Dadeni. Wrth i’r uchelwyr
ymseisnigo fwyfwy, a’r mân sgweieriaid fynd yn dlotach, ac i ddiddordebau
diwylliannol newid, mae byd y beirdd yn newid. Tan o leiaf flynyddoedd
cynnar yr 17eg ganrif y mae llu o gerddi mewn cynghanedd yn cael eu
hysgrifennu, ond mae’r llywodraeth yn ceisio ffrwyno’r beirdd llai
parchus. Ond mae’r beirdd yn drwgdybio’r gair printiedig a gwerthoedd
y Dadeni - arwyddion o’r meddwl caeëdig - ac fe fyddai hynny’n golygu
y byddai’r traddodiad yn mynd i ddifancoll.
Ymhlith dyneiddwyr Cymreig y Dadeni y mae yna awydd i ddiogelu purdeb
a chyfoeth yr iaith, fel yn achos ieithoedd hynafol yr hen fyd. Maent
yn paratoi geiriaduron a llyfrau gramadeg, yn dadlau o blaid hanesion
Sieffre o Fynwy ynglyn â tharddiad clasurol y Gymraeg, ac yn ysgrifennu
hanes eu gwlad a’u siroedd. Yn bennaf oll, maent yn sicrhau bod y
Gymraeg yn iaith addoliad. Mae balchder diwylliannol yn gyfrifol am
hynny lawn cymaint â sêl grefyddol. Hefyd, chwedl yr hanesydd R T
Jenkins, ‘mynnai’r bobl ryw fath o lenyddiaeth’, ac mae rhai ond yn
rhy barod i’w bodloni trwy gynhyrchu almanaciau, baledi, anterliwtiau,
caneuon, carolau ac emynau. Ond wrth i’r hen draddodiad llenyddol
edwino mae’r awydd i ddiogelu’r dystiolaeth ohono yn arwain at lawer
o gasglu a chopïo llawysgrifau. Yn y 18fed ganrif ceir ymdrechion
i adfer yr hen fesurau caeth, yn enwedig felly gan y bardd o Ynys
Môn, Goronwy Owen.
Y celfyddydau eraill ac ysgolheictod
Daw pensaernïaeth y Dadeni i Gymru yn y 1570au yn yr adeiladau a godwyd
yn Sir Ddinbych gan y marsiandiwr o Antwerp, Richard Clough. Yn y
blynyddoedd sy’n dilyn y mae llawer o adeiladau yn yr un traddodiad
yn cael eu codi. Mewn trefi megis Aberhonddu a Threfaldwyn mae wynebau’r
tai yn cael eu haddurno’n gain. Lle mae gerddi ffurfiol, megis yn
Aberglasni, mae gwaith tirlunio’n cael ei wneud trwy blannu coed a
chreu llynnoedd. Nid oedd llawer yn cael ei gyflawni yng Nghymru o
ran arlunio a cherflunio, er mae rhai o’r tirfeddianwyr yn gasglwyr
o fri. Nid oes cymaint o fynd ar gerddoriaeth draddodiadol ond mae
diddordeb o hyd mewn canu â’r delyn, ac mae yna egin diddordeb
mewn cerddoriaeth gorawl.
Prif ysgolhaig y canol oesoedd cynnar yw Edward Lhuyd. Y mae’n sefydlu’r
cysylltiad rhwng yr ieithoedd Celtaidd, ac yn damcaniaethu’n bwyllog
ynglyn ag arwyddocâd henebion, botaneg a daeareg Cymru. Hybu ysgolheictod
Cymreig yw un o amcanion Cymdeithas y Cymrodorion a sefydlwyd gan
Gymry Llundain yn 1751.
Addysg  Yng Nghymru’r canol oesoedd y mae addysg ar gael hwnt ac yma yn y
mynachlogydd a chanolfannau crefyddol eraill. Y mae’r prifysgolion,
yn enwedig Rhydychen, yn denu myfyrwyr o Gymru. Y mae addysgu lleygwyr
yn elfen bwysig o’r Dadeni, ac mae llythrennedd o bwys mawr i’r Protestaniaid.
Y cyntaf o golegau Rhydychen i’w sefydlu wedi’r Diwygiad Protestannaidd
yw Coleg yr Iesu, ac yr oedd addysgu Cymry yn ganolog i’w bwrpas.
Fe ddechreuodd meibion teuluoedd cefnog Cymru fynychu ysgolion bonedd
yn Lloegr.
Erbyn 1603 yr oedd deunaw o ysgolion gramadeg wedi cael eu sefydlu
yn nhrefi Cymru. Ychydig o ddarpariaeth sydd ar gyfer trwch y boblogaeth
tan y 1650 pan mae’r Weriniaeth yn agor ysgolion ym mhob canolfan
drefol yng Nghymru. Y Welsh Trust sy’n parhau â’r gwaith rhwng
1674 a 1681, a chan y Society for the Propagation of Christian Knowledge
o 1700. Y mae’r Anghydffurfwyr yn sefydlu academïau, o safon uchel
rhai ohonynt, i addysgu gweinidogion.
Y garreg filltir bwysig yw ymgyrch Griffith Jones, Llandowror, yn
Sir Gaerfyrddin rhwng 1734 a 1771. Defnyddiodd ysgolion cylchynol
- canolfannau dros dro yn canolbwyntio ar ddysgu plant ac oedolion
i ddarllen. Gellir dehongli’r manylion a gyflwynodd am ei waith i
olygu bod dau gan mil o bobl - tua a hanner poblogaeth Cymru - wedi
dysgu darllen o ganlyniad i’w ymdrechion.
|
 |

|