|  |
 Twf
y Wladwriaeth Gymreig
 Brenin Arthur
Beth ddigwyddodd ar ôl cwymp yr
Ymerodraeth Rufeinig?
Ym Mhrydain y mae rhai o elfennau y drefn Rufeinig yn goroesi’r cwymp.
Y mae’r Prydeinwyr Rhufeinig yn y dinasoedd a’r prif drefi rhanbarthol
yn ceisio cynnal y strwythurau gwleidyddol a etifeddwyd gan Rufain.
Y maent yn llwyddo i ryw raddau. Rhwng 420 a 450 y mae’n debygol mai
Gwrtheyrn (Vortigen) oedd yn rheoli’r rhan fwyaf o’r cyn dalaith Rufeinig.
Y mae traddodiad yn awgrymu ei fod wedi defnyddio’r hen ddull Rhufeinig
o droi un ymosodwr estron yn erbyn y llall. Felly y mae’n trefnu i
rai o’r Gododdin (Votodani - y bobl o Aber Gweryd, a siaradai’r Frythoneg)
i ymsefydlu yng ngogledd-orllewin Cymru i wrthsefyll ymosodiadau’r
Gwyddelod. Y mae’n caniatáu i’r Sacsoniaid i ymsefydlu yn gyfnewid
am eu cymorth i wrthsefyll y Pictiaid. Y mae'n bosibl bod llawer o
Sacsoniaid yn byw ym Mhrydain cyn cwymp yr ymerodraeth. Erbyn tua
490 y maent yn creu eu teyrnas eu hunain yng Nghaint, Sussex, Wessex
ac East Anglia.
Arthur a’r gwrthsafiad Prydeinig
Arwr
mawr y frwydr rhwng y Prydeinwyr a’r Sacsoniaid yw Arthur. Mae’n
bosib ei fod yn llinach y traddodiad Rhufeinig, oherwydd yr oedd
gan y Rhufeiniaid swyddog, y Dux Britanniarum (Dug Prydain), arweinydd
y llu symudol oedd a’r gwaith o warchod cywirdeb y dalaith Rufeinig.
Y mae’r ffaith bod cynifer o lefydd ar draws Prydain yn coffáu Arthur
yn awgrymu ei fod wedi dal y fath swydd. Enillodd ei frwydr fwyaf
tua 496 ym Mons Badonicus, lle, efallai yn Sussex neu ger Caerfaddon.
Mae ei fuddugoliaeth yn dal y Sacsoniaid yn ôl am o leiaf hanner
can mlynedd.
Ymddangosiad Lloegr
Erbyn 550 mae’r Sacsoniaid ar gerdded eto. Ymhen canrif fe fyddai’r
rhan fwyaf o’r hyn fyddai’n cael ei alw’n Lloegr dan reolaeth y Sacsoniaid.
Ar un adeg tybiai haneswyr bod eu llwyddiant yn golygu bod y Prydeinwyr
neu’r Cymry un ai wedi cael eu lladd neu wedi cael eu gyrru tua’r
gorllewin. Nid
dyna’r gred bellach. Y mae trwch y boblogaeth yn aros lle maen nhw
ac yn mabwysiadu iaith ac arferion y goresgynwyr. Y mae’r iaith yn
aros mewn enwau lleoedd. Y mae gan lawer o afonydd yn Lloegr enwau
Brythoneg: e.e. Avon - Afon. Y mae teyrnasoedd Sacsonaidd neu Seisnig
yn cael eu creu. Y cryfaf erbyn 700 yw Northumbria, Caint, Wessex
a Mercia.
Teyrnasoedd Cymru
Y mae gwreiddiau teyrnasoedd cynnar Cymru yn hyn na’r rhai yn Lloegr.
Gwent, mae’n debyg yw’r cynharaf, a’i wreiddiau yng Nghaerwent, o
dan ddylanwad y Silwriaid. Y mae’r arweinwyr yng Ngwynedd yn olrhain
eu cyndeidiau yn ôl i Cunedda, arweinydd tybiedig y Gododdin. Yn ne-orllewin
Cymru, y mae Dyfed, gwlad y Demetiaid, yn dod o dan reolaeth y Gwyddelod.
Felly hefyd teyrnas Brycheiniog.
|
 |

|
 © MM
|
|
|
|
|