Crynodeb

  • Bethan Rhys Roberts fu'n cyflwyno panel o wleidyddion, ac yn rhoi cyfle i'r gynulleidfa eu holi

  • Ar y panel roedd Prif Weinidog ac arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan, Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, Paul Davies, Dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Helen Jenner, Dirprwy arweinydd Reform UK yng Nghymru, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds a Tessa Marshall o'r Blaid Werdd

  • Cyfle hefyd i glywed barn gohebwyr a sylwebyddion o'r 'Stafell Sbin

  • Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar 7 Mai

  • Crynodeb syml o safbwyntiau'r prif bleidiau ar y materion sydd bwysicaf i bleidleiswyr

  • Yn ystod y ddadl cryn sylw i iechyd, costau byw, pwerau'r Senedd ac amaeth

  1. Maniffesto y Democratiaid Rhyddfrydol - gofal cymdeithasol, atal annibyniaeth a gwella cyflwr afonydd a moroeddwedi ei gyhoeddi 18:48 GMT+1 23 Ebrill

    Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

    maniffesto y democratiaid rhyddfrydol

    Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cydnabod nad ydyn nhw'n disgwyl arwain Llywodraeth Cymru wedi 7 Mai, ond maen nhw yn gobeithio ennill digon o seddi i fod â dylanwad ar bwy bynnag sydd mewn grym.

    Maen nhw wedi cyhoeddi pum llinell goch polisi, a'u haddewid yw y byddan nhw ond yn barod i gefnogi llywodraeth sy'n glynu at y llinellau coch hynny.

    Un o brif addewidion y blaid yw buddsoddi £300m mewn gofal cymdeithasol, fel ffordd o ysgafnhau'r baich ar y gwasanaeth iechyd, trwy alluogi mwy o bobl i adael eu gwlâu ysbyty a chael gofal yn y gymuned.

    Er mwyn talu am hyn, mae'r blaid yn dweud y byddan nhw'n barod i godi ceiniog ar dreth incwm yng Nghymru am gyfnod penodol (ond sydd heb amserlen hyd yn hyn) pe na bai digon o arian yn y gyllideb bresennol i ariannu'r buddsoddiad, tra'n gwthio am ragor o arian o San Steffan i Gymru yn y cyfamser.

    Jane DoddsFfynhonnell y llun, Y Democratiaid Rhyddfrydol
    Disgrifiad o’r llun,

    Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, fydd yn siarad ar ran y blaid ar y panel heno

    Mae'r addewid i atal annibyniaeth yn cael lle blaenllaw iawn ym maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol.

    Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn addo 30 awr o ofal plant am ddim i rai rhwng naw mis a phedair oed, fel ffordd o helpu rhieni yn ôl i'r gwaith, rhoi hwb i'r economi a rhoi dechrau da i blant.

    Maen nhw hefyd yn dweud y byddan nhw'n deddfu i atal cwmnïau dŵr rhag gollwng carthion heb eu trin ac yn atal bonws i benaethiaid cwmnïau dŵr tan nad oes unrhyw garthion yn cael eu rhyddhau i afonydd a moroedd.

    Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, fydd yn siarad ar ran y blaid ar y panel heno.

  2. Faint o ddylanwad mae'r ddadl yn debygol o'i gael?wedi ei gyhoeddi 18:44 GMT+1 23 Ebrill

    Cemlyn Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    I'r bobl hynny sy'n gwybod yn iawn sut maen nhw'n mynd i bleidleisio ar 7 Mai, mae'n debyg taw dim ond cadarnhau beth maen nhw'n ei feddwl yn barod fydd y ddadl heno.

    Ond i'r rheiny sy'n dal i bendroni, yn dal i aros i gael eu hargyhoeddi, fe allai'r ddadl yma fod yn ddefnyddiol iawn.

    Ac felly mae yna gyfle mawr yma i'r gwleidyddion i greu argraff, ond cyfle hefyd wrth gwrs iddyn nhw wneud camgymeriad allai fod yn gostus mor hwyr â hyn yn yr ymgyrch.

    Y peth arbennig am y dadleuon byw yma yw nad oes unrhyw un yn gwybod yn iawn beth sy'n mynd i ddigwydd.

    A fydd aelod o'r gynulleidfa er enghraifft yn gwneud sylw, yn rhannu profiad, neu'n gofyn cwestiwn sy'n baglu un o'r gwleidyddion gan greu moment yn yr ymgyrch? Dyna fydd y gwleidyddion yn ceisio'i osgoi heno.

  3. Y gynulleidfa yn dechrau cyrraedd - a fyddan nhw'n cael eu plesio?wedi ei gyhoeddi 18:43 GMT+1 23 Ebrill

    Ar ôl teithio o bob cornel o Gymru i glywed gan y chwe phlaid, mae'r etholwyr yn dechrau cyrraedd Yr Egin.

    Disgrifiad,

    Gohebydd BBC Cymru Harriet Horgan sydd yn Yr Egin

  4. Maniffesto y Blaid Werdd - rheoli rhenti, disodli treth cyngor a gwella trafnidiaeth gyhoedduswedi ei gyhoeddi 18:41 GMT+1 23 Ebrill

    Plaid Werdd Cymru

    Maniffesto y Blaid Werdd

    Mae'r Gwyrddion yn gobeithio y bydd eu seddi nhw yn rhai allweddol i unrhyw blaid sy'n ceisio sicrhau mwyafrif er mwyn ethol Prif Weinidog nesaf Cymru – ac yn bwriadu gofyn pris teg am eu cefnogaeth, yn ôl arweinydd y Gwyrddion yng Nghymru, Anthony Slaughter.

    Roedd y maniffesto yn rhoi llawer o bwyslais ar ddarparu cartref clyd a fforddiadwy i bawb – ac un o'r mesurau y mae'r blaid eisiau ei gyflwyno er mwyn cyflawni hynny yw rheolau llymach ar y sector rhent preifat.

    Mae'r blaid yn cynnig rhewi cost rhenti am flwyddyn ac yn addo adeiladu 60,000 o dai cymdeithasol dros y ddegawd nesaf,

    Mae'r Blaid Werdd eisiau cyflwyno Treth Gwerth Tir yn lle'r dreth gyngor, fyddai'n golygu bod perchnogion yr eiddo mwyaf gwerthfawr yn talu rhagor.

    Tessa Marshall fydd cynrychiolydd y Blaid Werdd ar y panel heno.
    Disgrifiad o’r llun,

    Tessa Marshall fydd cynrychiolydd y Blaid Werdd ar y panel heno.

    Mae'r Gwyrddion yn galw hefyd am reoleiddio tynnach ar gwmnïau dŵr, ac eisiau rhagor o rymoedd gan San Steffan er mwyn rhoi Dŵr Cymru mewn mesurau arbennig.

    Byddai'r Gwyrddion yn gwneud teithiau bws cyhoeddus am ddim i bawb dan 22 oed ac yn cyfyngu'r gost i £1 ar gyfer pob taith i bawb arall – polisi fyddai'n costio £256m i Lywodraeth Cymru dros dair blynedd yn ôl y blaid.

    Tessa Marshall fydd cynrychiolydd y Blaid Werdd ar y panel heno.

  5. 🤔'Tasech chi'n Brif Weinidog? Be' fyddai'n cael eich sylw?wedi ei gyhoeddi 18:38 GMT+1 23 Ebrill

    Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae gwleidyddion o bob plaid wedi bod yn gosod eu stondin ac yn dweud beth fyddai ar frig eu hagenda petaen nhw yn ffurfio y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd.

    Ond pa bynciau sydd o bwys i chi a be' fyddai eich blaenoriaeth petaech chi'n brif weinidog ?

    Mae tîm Cymru Fyw wedi bod yn holi ar draws Cymru.

    Disgrifiad,

    'Tasech chi’n Brif Weinidog – beth fyddech chi’n ei wneud gyntaf?

  6. Rhestrau aros - ar ddiwrnod cyhoeddi'r ffigyrau diweddaraf - yn bwnc amlwg?wedi ei gyhoeddi 18:36 GMT+1 23 Ebrill

    Owain Clarke
    Gohebydd iechyd BBC Cymru

    Mae’n amserol fod y ddadl heno yn digwydd ar y diwrnod y cafodd yr ystadegau perfformiad iechyd diweddaraf eu cyhoeddi cyn yr etholiad - ac mae arolygon yn awgrymu’n gyson fod gwella cyflwr y gwasanaeth iechyd yn flaenoriaeth amlwg i etholwyr.

    Ac o ystyried fod mwy na 666,000 o achosion yn dal i aros am eu triniaethau - mae’n debygol bod canran sylweddol o’r rhai fydd yn ystyried sut maen nhw am fwrw eu pleidlais mewn pythefnos yn rhywun sydd naill ai ar restr aros, neu’n 'nabod rhywun sy’n aros.

    Dyna pam fod y newyddion heddiw bod targedau allweddol i ostwng rhestrau wedi cael eu methu yn arwyddocaol, er nad os modd gwadu fod 'na welliant sylweddol wedi bod dros y 10 mis diwethaf.

    Fe fydd pob un o’r pleidiau heno yn addo gwella gwasanaethau - ond y cwestiwn mawr yw sut?

  7. 'Gwerthfawrogi bod pobl ifanc yn cael pleidlais'wedi ei gyhoeddi 18:31 GMT+1 23 Ebrill

    Mae dwy o Ysgol Dyffryn Nantlle wedi cyrraedd yr Egin ac yn barod i wylio'r cyfan o'r 'Stafell Sbin.

    Mae'r ddwy hefyd yn pleidleisio am y tro cyntaf, ac yn falch iawn o'r cyfrifoldeb yna.

    Dywedodd Alaw: "Dwi'n rili gwerthfawrogi bod pobl ifanc yn cael y bleidlais, maen nhw'n cael eu underestimato lot, so 'dan ni'n ddiolchgar i gael neud o."

    Ychwanegodd Alys: "Mae'n teimlo 'dan ni'n gallu gweld yn fwy 'wan be sy'n actually digwydd o gwmpas ni a beth sy'n gallu newid dyfodol ni."

    Ond roedd Alaw o'r farn bod angen mwy o sŵn ynghylch yr etholiad ymhlith pobl ifanc.

    "Ma' gennym ni lawer o ffrindiau oeddan nhw ddim yn gwybod [am yr etholiad] a dy'n nhw methu pleidleisio achos 'nathon nhw ddim cofrestru.

    "So dwi'n meddwl bod angen mwy o ymwybyddiaeth rhwng pobl ifanc yn yr ysgolion."

    Mae'r ddwy yn gobeithio cael "mwy o wybodaeth" heno er mwyn "gwneud y dewis gorau".

    Alys Llewelyn ac Alaw Llyfni
    Disgrifiad o’r llun,

    Alys Llewelyn (chwith) ac Alaw Llyfni (dde), y ddwy yn 17 ac yn pleidleisio am y tro cyntaf

  8. Y dadleuon yma yn gallu bod yn 'allweddol, yn ddylanwadol ac yn ddadlennol'wedi ei gyhoeddi 18:28 GMT+1 23 Ebrill

    "Mae'r dadleuon yma yn gallu bod yn allweddol, yn ddylanwadol ac yn ddadlennol – maen nhw hefyd yn gallu bod yn ddiflas, yn swnllyd, weithiau'n syrcas – gewn ni weld sut eith hi," medd Bethan Rhys Roberts a fydd yn cadeirio Y Ddadl Fawr.

    "I Richard Nixon 'nôl yn y 1960au, roedd chwysu dan oleuadau'r stiwdio yn ddigon i golli lle yn y Tŷ Gwyn.

    "I Nick Clegg yn etholiad cyffredinol 2010 a dadl enwog "I agree with Nick", roedd ei berfformiad hyderus yn ddigon i danio "Cleggmania" a sicrhau lle i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y llywodraeth."

    Richard Nixon
    Disgrifiad o’r llun,

    I Richard Nixon 'nôl yn y 1960au, roedd chwysu dan oleuadau'r stiwdio yn ddigon i golli lle yn y Tŷ Gwyn!

  9. Etholiad Senedd Cymru: Cymharwch bolisïau'r pleidiauwedi ei gyhoeddi 18:24 GMT+1 23 Ebrill

    Mae'r gorsafoedd pleidleisio yn agor yng Nghymru ar 7 Mai mewn etholiad a fydd yn ehangu Senedd Cymru o 60 i 96 sedd - ydych chi wedi penderfynu pa blaid fydd yn cael eich pleidlais chi?

    Os na, mae'r canllaw hwn yn cynnig crynodeb syml o safbwyntiau'r prif bleidiau ar y materion sydd bwysicaf i bleidleiswyr, yn seiliedig ar yr addewidion maen nhw wedi'u gwneud yn ystod yr ymgyrch.

    etholiad

    Cafodd y meysydd polisi sydd wedi'u cynnwys yn y canllaw hwn eu dewis drwy ddefnyddio data arolygon barn ar yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei ystyried fel y materion pwysicaf sy'n wynebu eu gwledydd.

    Arolygon ar-lein oedd yr arolygon barn gyda dros 2,000 o bobl yng Nghymru a gynhaliwyd gan Savanta, dolen allanol, yn allanol ar gyfer y BBC rhwng 29 Ionawr a 6 Chwefror 2026.

    Mae rhai pynciau wedi cael eu grwpio gyda'i gilydd o dan deitlau byr er mwyn symlrwydd. Er enghraifft, mae cyllid personol a threth, biliau ynni, chwyddiant, tlodi, budd-daliadau a gofal plant i gyd wedi'u cynnwys o dan y categori "Costau byw".

    Mae rhai o'r pynciau yn cwmpasu meysydd lle mae gan y Senedd bŵer cyfyngedig oherwydd y ffordd y mae datganoli'n gweithio. Er enghraifft, mae gan Lywodraeth y DU yn San Steffan reolaeth dros y rhan fwyaf o faterion sy'n ymwneud â "mewnfudo".

    Am y rheswm hynny, mae'r canllaw yn tynnu sylw at ble mae'r rhan fwyaf o'r grym ym mhob pwnc er mwyn cydnabod na all rhai o bolisïau'r pleidiau ddod yn gyfraith oni bai eu bod yn cael eu pasio gan Lywodraeth y DU.

  10. 'Edrych ymlaen - ddim wedi bod mewn rhywbeth fel hyn o'r blaen'wedi ei gyhoeddi 18:18 GMT+1 23 Ebrill

    BBC Radio Cymru

    Un sy’n rhan o’r gynulleidfa yn yr Egin heno yw Delia Protheroe, sy'n ffermio yn Sir Gaerfyrddin, a chyn i’r ddadl ddechrau bu’n rhannu ei gobeithion ar raglen Post Prynhawn Radio Cymru.

    “Fi’n gobeithio bod pawb yn mynd i ateb cwestiynau a pheidio osgoi, achos ni 'di gweld lot o hwnna'n ddiweddar.

    “Fi’n gobeithio y bydden ni’n siarad falle am food security - mae’n bwnc pwysig iawn achos ni gyd yn dibynnu ar ffermwyr, yn ogystal â phethau eraill pwysig fel y GIG ac addysg.

    “Sai ‘di bod i unrhyw beth fel hyn o’r blaen felly fi’n edrych ymlaen i weld beth fydd y noswaith fel."

    Delia Protheroe
  11. Nid dim ond panelwyr, cynulleidfa a chyflwynydd - ystafell sbin hefyd!wedi ei gyhoeddi 18:13 GMT+1 23 Ebrill

    Ein gohebydd Harriet Horgan sy'n ein tywys o amgylch yr ystafell sbin, ble fydd sylwebwyr a newyddiadurwyr yn gwylio'r ddadl fawr ac yn dadansoddi.

    Disgrifiad,

    Gohebydd BBC Cymru Harriet Horgan yn ein croesawu i'r Egin

  12. Y gynulleidfa o bob cwr o Gymru ac yn adlewyrchu gwahanol safbwyntiauwedi ei gyhoeddi 18:07 GMT+1 23 Ebrill

    paratoi
    Disgrifiad o’r llun,

    Y paratoi ddydd Mercher

    Fe fydd 'na 60 yn y gynulleidfa yn yr Egin o bob cwr o Gymru, ac yn adlewyrchu gwahanol safbwyntiau gwleidyddol.

    Fe fydd canran yn cefnogi pob plaid ac eraill eto i benderfynu sut i bleidleisio – pob un gobeithio yn barod i holi a herio.

    Ers wythnosau, mae'r tîm cynhyrchu wedi bod yn gweithio'n ofalus yn gosod sgaffald Y Ddadl Fawr, yn sicrhau cynulleidfa gytbwys ac yn dewis cwestiynau sy'n adlewyrchu pryderon mwya'r etholwyr.

    Yn rhan o'r gynulleidfa mae myfyrwyr sy'n astudio newyddiaduraeth yng Nghaerdydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Yn rhan o'r gynulleidfa mae myfyrwyr sy'n astudio newyddiaduraeth yng Nghaerdydd - maen nhw ar eu ffordd!

  13. Yr Egin yn dechrau prysurowedi ei gyhoeddi 18:02 GMT+1 23 Ebrill

    Mae'r paratoadau funud olaf yn digwydd ar hyn o bryd, ac mae ambell aelod o'r gynulleidfa a'r panel eisoes wedi cyrraedd.

    y galon
    Disgrifiad o’r llun,

    Y galon yn yr Egin sef cartref y Ddadl Fawr heno

    yr egin
    Disgrifiad o’r llun,

    Aelodau o'r cyhoedd yn cyrraedd

  14. Pwy yw'r gwleidyddion a fydd yn cael eu holi heno?wedi ei gyhoeddi 17:55 GMT+1 23 Ebrill

    (Yn nhrefn y wyddor enwau cyntaf) Eluned Morgan, Helen Jenner a Jane Dodds
    Disgrifiad o’r llun,

    (Yn nhrefn y wyddor enwau cyntaf) Eluned Morgan, Helen Jenner a Jane Dodds

    • Eluned Morgan, Prif Weinidog ac arweinydd Llafur Cymru
    • Helen Jenner, Dirprwy arweinydd Reform UK yng Nghymru
    • Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru
    • Paul Davies, Dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig
    • Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru
    • Tessa Marshall o'r Blaid Werdd
    Paul Davies, Rhun ap Iorwerth a Tessa Marshall
    Disgrifiad o’r llun,

    Paul Davies, Rhun ap Iorwerth a Tessa Marshall

  15. Cyflwynydd Y Ddadl Fawr: 'Gwleidyddion pob plaid yn gallu bod yn nerfus a finna' hefyd'wedi ei gyhoeddi 17:49 GMT+1 23 Ebrill

    Bethan Rhys Roberts
    Disgrifiad o’r llun,

    Bethan Rhys Roberts fydd yn cadeirio'r drafodaeth o'r Egin yng Nghaerfyrddin

    Mae dadleuon yr arweinwyr ar drothwy unrhyw etholiad yn sicr yn rhoi'r gwleidyddion dan bwysau mawr, medd cadeirydd y drafodaeth heno o'r Egin, Bethan Rhys Roberts.

    "O golli tymer i anghofio ffeithiau, mae'r gwleidyddion ar brawf a phleidleisiau yn y fantol," meddai.

    "Wedi dros chwarter canrif o lywodraeth Lafur yng Nghymru, yn fwy nag erioed o'r blaen, mae 'na deimlad o groesffordd go iawn yn etholiad y Senedd y tro hwn - a'r Ddadl Fawr felly yn gyfle i weld y dewis ger bron.

    "O brofiad, dwi'n gwybod bod gwleidyddion o bob plaid yn gallu mynd yn nerfus iawn cyn y darllediad byw – a finna' hefyd!

    "Gyda'u timau, maen nhw'n ymarfer atebion posib, mireinio negeseuon craidd, cynllunio'u strategaethau i herio eu gwrthwynebwyr unigol... heb sôn am ymarferion llais neu newid gwisg ar y funud olaf!

    "Yr her fawr i fi fydd sicrhau tegwch a chydbwysedd a thrafodaeth ddifyr a pharchus, tanllyd ar brydiau falla', sydd ddim yn ffars."

    Beth
    Disgrifiad o’r llun,

    Bethan Rhys Roberts yn paratoi ddydd Mercher cyn Y Ddadl Fawr heno

  16. Y Ddadl Fawr - cip y tu ôl i'r llen ar y paratoadauwedi ei gyhoeddi 17:43 GMT+1 23 Ebrill

    Mae'r noson fawr wedi cyrraedd - noson Y Ddadl Fawr o'r Egin yng Nghaerfyrddin.

    Ers wythnosau mae ymgeiswyr ac aelodau o bobl plaid wedi bod yn ymgyrchu'n ddygn - a heno bydd cyfle i gynrychiolwyr y prif bleidiau ateb cwestiynau y gynulleidfa.

    Heb os mae'r chwech sydd ar y panel wedi bod yn brysur yn paratoi ond hefyd y tîm cynhyrchu a'r cyflwynydd Bethan Rhys Roberts.

    Mae un o ohebwyr Cymru Fyw - Beth Alaw - wedi cael cip ar y paratoadau.

    Disgrifiad,

    Cipolwg y tu ôl i’r llen cyn Y Ddadl Fawr yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin

  17. Croeso i'r Ddadl Fawr - cyfle i holi'r gwleidyddionwedi ei gyhoeddi 17:40 GMT+1 23 Ebrill

    y ddadl fawr

    Dim ond pythefnos sydd yna bellach cyn Etholiad y Senedd 2026.

    Dydd Iau, 7 Mai, yw'r diwrnod mawr - diwrnod y mae gwleidyddion o bob plaid a rhai ymgeiswyr annibynnol wedi bod yn ymgyrchu'n galed ar ei gyfer.

    Heno cyfle i holi cynrychiolwyr y prif bleidiau yn yr Egin yng Nghaerfyrddin yng nghwmni Bethan Rhys Roberts.

    Fe fydd 'na 60 o bobl yn y gynulleidfa o bob cwr o Gymru ac fe fyddan nhw yn adlewyrchu gwahanol safbwyntiau gwleidyddol.

    Dilynwch y cyfan yn fyw - y cyffro yn dechrau am 20:00 ond cyn hynny golwg ar yr ymgyrchu hyd yma ac ar sut mae etholiad y Senedd 2026 yn wahanol.

    Croeso aton ni.

    Yr Egin
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Ddadl Fawr yn cael ei chyflwyno o'r Egin yng Nghaerfyrddin