Pwerau ychwanegol i'r Senedd sy'n cael sylw Meryl Evanswedi ei gyhoeddi 20:46 GMT+1 23 Ebrill

Meryl Evans a wnaeth ofyn y trydydd cwestiwn heno
Bethan Rhys Roberts fu'n cyflwyno panel o wleidyddion, ac yn rhoi cyfle i'r gynulleidfa eu holi
Ar y panel roedd Prif Weinidog ac arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan, Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, Paul Davies, Dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Helen Jenner, Dirprwy arweinydd Reform UK yng Nghymru, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds a Tessa Marshall o'r Blaid Werdd
Cyfle hefyd i glywed barn gohebwyr a sylwebyddion o'r 'Stafell Sbin
Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar 7 Mai
Crynodeb syml o safbwyntiau'r prif bleidiau ar y materion sydd bwysicaf i bleidleiswyr
Yn ystod y ddadl cryn sylw i iechyd, costau byw, pwerau'r Senedd ac amaeth

Meryl Evans a wnaeth ofyn y trydydd cwestiwn heno
Ffynhonnell y llun, Senedd CymruY Senedd yw lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud am lawer o agweddau ar fywyd yng Nghymru, fel iechyd, addysg, tai, trafnidiaeth a'r amgylchedd.
Mae Aelodau'r Senedd yn chwarae rhan hanfodol wrth graffu ar gynlluniau a gwariant Llywodraeth Cymru, ac yn awgrymu gwelliannau i wneud pethau'n well i bawb yng Nghymru.
O 2026 ymlaen bydd gan y Senedd 96 o aelodau, wedi'u hethol o bob cwr o Gymru.
Ffynhonnell y llun, bbcY Senedd ar ei newydd wedd pan fydd 96 aelod

Llafur Cymru
Mae “pobl yn diodde’ a phobl yn stryglo” yn ôl prif weinidog ac arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan, yn enwedig yn sgil y rhyfel yn y Dwyrain Canol.
Ychwanegodd bod angen datblygu Cymru sy’n “annibynnol o ran cynhyrchu egni ein hunain” a bod datblygu Wylfa yn gam ymlaen i helpu rhoi “arian ym mhocedi pobl”.
Wrth i nifer yr aelodau gynyddu yn y Senedd, mae ffiniau'r etholaethau hefyd yn newid.
Bydd Cymru yn cael ei rhannu yn 16 o etholaethau, gyda chwe sedd yn y Senedd i bob etholaeth.
Ewch yma i weld ym mha etholaeth rydych chi ynddi.

Mae'r pleidiau wedi rhestru hyd at wyth ymgeisydd ar gyfer pob etholaeth ac mae ymgeiswyr annibynnol hefyd sefyll yn yr etholiad.
Fe fyddwch yn pleidleisio dros un blaid, neu un ymgeisydd annibynnol, ac mae'r seddi'n cael eu dyrannu ar sail cyfran y pleidleisiau.
Er enghraifft, os bydd plaid yn ennill tair sedd, bydd y tri pherson uchaf ar eu rhestr yn cael eu hethol i'r seddi hynny.
Ceidwadwyr Cymreig
Yn ôl Paul Davies, dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig bydden nhw’n mynd i’r afael gyda’r argyfwng costau byw drwy ymestyn gofal am ddim i blant rhwng 9 mis a phedair oed.
Bydden nhw hefyd yn torri 1c o’r dreth incwm sylfaenol ac yn capio treth y cyngor “i roi arian yn ôl ym mhocedi” pobl.

Gofynnodd un dyn o'r dorf, sy'n derbyn gwasanaethau gofal adref, bod nifer o'r gweithwyr sy'n rhoi cymorth iddo yn dod o wledydd tramor.
Dywedodd bod y blaid Lafur yn mynd i newid y rheolau Visa, gan gwestiynu "pwy fydd yn edrych ar ôl gofal cymdeithasol adref wedyn?"
Yn ôl un ddynes, mae hi ar restr aros i gael triniaeth Endometriosis ers naw mlynedd a dywedodd hi ei bod yn meddwl y dylai gwleidyddion ganolbwyntio ar wasanaethau i ferched.
Heriodd un dyn os oedd y llywodraeth yn barod i ymddiheuro i'r miloedd o bobl ar restrau aros.
"Wrth gwrs fy mod i'n barod i ymddiheuro" oedd ateb Eluned Morgan.
Plaid Werdd Cymru
Dywed Tessa Marshall o’r Blaid Werdd y bydden nhw’n rhewi rhent ac yn dod â system o docynnau £1 ar gyfer bysiau.
Ychwanegodd eu bod am newid y system trethu a chyflwyno treth yn seiliedig ar berchnogaeth tir yn lle treth y cyngor fel bod y "bobl efo mwya’ o dir yn talu mwy".
Nid dim ond y gwleidyddion a'r gynulleidfa sy'n cael mynegi barn.
Mae'r 'Stafell Sbin' gerllaw yn gymysgedd o ohebwyr a sylwebyddion - pawb yn barod i ddadansoddi.
Yno hefyd mae gohebydd BBC Cymru Fyw.

Yr ystafell yn llawn
Owain Clarke
Gohebydd iechyd BBC Cymru
Gobaith nifer o’r pleidiau yw bod addo mwy o adnoddau i’r gwasanaeth iechyd yn plesio etholwyr.
Ond eisoes mae dros £12bn yn cael ei wario ar iechyd a gofal cymdeithasol - sy' dros hanner holl gyllideb ar gyfer gwariant dydd i ddydd Llywodraeth Cymru - a’n llawer iawn uwch na’r gyfran ar ddechrau datganoli.
Mae niferoedd staff wedi codi’n sylweddol hefyd o gymharu â’r cyfnod cyn y pandemig, ond mae arbenigwyr yn awgrymu nad yw hynny wedi arwain at gymaint â hynny yn fwy o weithgarwch o fewn y gwasanaeth.
Reform UK
Dywed Helen Jenner, dirprwy arweinydd Reform UK yng Nghymru, bod pobl Cymru yn cael eu gordrethu a bod angen torri trethu i roi ‘mwy o bres’ ym mhocedi pobl.
Ychwanegodd bod angen symud i ffwrdd o dargedau net sero er mwyn lleihau biliau ynni.
Pwnc arall amlwg yw costau byw o ddydd i ddydd.
Faint o bryder yw hyn i'r gwleidyddion - dyna bryder Llywela Wharton

Ffynhonnell y llun, bbcMae Jane Dodds yn cyhuddo Reform o "greu ofn" ymhlith staff y GIG sy'n dod o dramor, ond mae Helen Jenner o Reform yn mynnu bod "angen hyfforddi pobl o'r wlad hon yn gyntaf ac wedyn llenwi bylchau gyda phobol o dramor".
Gyda'r drafodaeth yn ei hanterth, dyma'ch atgoffa o'r gwleidyddion sydd ar y panel..
Cafodd arweinwyr pob plaid eu gwahodd i'r ddadl, os nad oedden nhw'n siarad Cymraeg yna roedd gofyn iddyn nhw yrru cynrychiolydd.
Y Ceidwadwyr - Paul Davies
Reform UK - Helen Jenner
Llafur - Eluned Morgan
Y Blaid Werdd - Tessa Marshall
Plaid Cymru - Rhun ap Iorwerth
Y Democratiaid Rhyddfrydol - Jane Dodds

Y chwe gwleidydd sy'n rhan o'r drafodaeth
Owain Clarke
Gohebydd iechyd BBC Cymru
Mae sawl un o’r pleidiau yn sôn am yr angen i daclo ‘corridor care’.
Wel mae’r term yn tueddu i gael ei ddefnyddio am bobl sydd wedi aros dros 12 awr mewn unedau brys ond ddim o reidrwydd wedi cael eu trin yn llythrennol mewn coridorau.
Ym mis Mawrth roedd 10,939 achos lle y gwnaeth rhywun aros dros 12 awr yn unedau brys Cymru.
"Wrth gwrs fy mod i'n barod i ymddiheuro" meddai Eluned Morgan ar ôl cael ei herio i wneud hynny gan aelod o'r gynulleidfa sydd wedi bod ar restr aros.

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Dywed arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, bod mynd i'r afael â gwasanaethau cymdeithasol yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau bod pobl yn medru gadael yr ysbyty yn brydlon.
Plaid Werdd Cymru
Dywed Tessa Marshall o'r Blaid Werdd bod angen mwy o flaenoriaeth i atal salwch yn y lle cyntaf a gwasanaethau cymdeithasol.
"Rhaid bod yn onest" bod dim atebion cyflym i ddatrys problemau'r GIG, meddai.
Ceidwadwyr Cymreig
Dywed Paul Davies, dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, y byddai ei blaid yn datgan "argyfwng iechyd" a fyddai'n sicrhau bod y GIG yn flaenoriaeth.
"Allwn ni ddim cario ymlaen fel hyn", meddai.