Crynodeb

  • Bethan Rhys Roberts fu'n cyflwyno panel o wleidyddion, ac yn rhoi cyfle i'r gynulleidfa eu holi

  • Ar y panel roedd Prif Weinidog ac arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan, Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, Paul Davies, Dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Helen Jenner, Dirprwy arweinydd Reform UK yng Nghymru, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds a Tessa Marshall o'r Blaid Werdd

  • Cyfle hefyd i glywed barn gohebwyr a sylwebyddion o'r 'Stafell Sbin

  • Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar 7 Mai

  • Crynodeb syml o safbwyntiau'r prif bleidiau ar y materion sydd bwysicaf i bleidleiswyr

  • Yn ystod y ddadl cryn sylw i iechyd, costau byw, pwerau'r Senedd ac amaeth

  1. Cynyddu'r gyllideb amaethwedi ei gyhoeddi 21:13 GMT+1 23 Ebrill

    Ceidwadwyr Cymreig

    Amaeth yw “asgwrn cefn ” Cymru yn ôl Paul Davies, dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac mae'n dweud bod bob £1 sy’n cael ei buddsoddi yn y diwydiant amaethyddol yn arwain at £9 yn yr economi ehangach.

    Ychwanegodd y byddai’r Ceidwadwyr yn rhoi hwb i’r diwydiant gan gynyddu’r gyllideb ffermio o £100m yn ystod tymor y Senedd nesaf.

  2. 'Angen sicrhau bod cynllun ffermio cynaliadwy yn gweithio i ffermwyr'wedi ei gyhoeddi 21:10 GMT+1 23 Ebrill

    Plaid Werdd Cymru

    Dywed Tessa Marshall o’r Blaid Werdd bod natur ac amaeth mor bwysig â’i gilydd.

    Dywedodd bod ffermwyr yn “colli arian” oherwydd newid hinsawdd, llifogydd a syched a bod angen sicrhau bod cynllun ffermio cynaliadwy yn gweithio i ffermwyr.

  3. Y pleidiau yn cystadlu i fod yn 'bencampwyr' dros y diwydiant amaethwedi ei gyhoeddi 21:07 GMT+1 23 Ebrill

    Steffan Messenger
    Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

    Mae amaeth fel petai wedi cael lle amlycach yn ystod yr ymgyrch ac yn y maniffestos eleni.

    Mae sawl plaid yn cystadlu a'i gilydd i fod yn bencampwyr dros y diwydiant.

    Dim syndod efallai o gofio proffil uchel y diwydiant yn dilyn protestiadau diweddar ynglŷn â newidiadau i'r dreth etifeddiant yn San Steffan ac i gymorthdaliadau ym Mae Caerdydd.

    Mae oddeutu 50,000 o bobl yn gweithio'n uniongyrchol ar ffermydd yng Nghymru ond os ystyriwn ni'r gadwyn gyflenwi bwyd a diod yn ehangach mae hynny'n chwyddo i dros 228,000.

    Dyna chi ryw 17% o weithlu Cymru a lot o bleidleisiau posib.

    Mae'n sector hynod ddylanwadol felly - sy'n wynebu heriau niferus ar hyn o bryd.

  4. Cefn gwlad sy'n cael sylw Aled Thomas sy'n ffermio'n lleolwedi ei gyhoeddi 21:05 GMT+1 23 Ebrill

    Aled Thomas
  5. Beth mae'r pleidiau yn ei ddweud am sero net?wedi ei gyhoeddi 21:05 GMT+1 23 Ebrill

    Steffan Messenger
    Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

    Mae'r ddadl yn amlygu unwaith yn rhagor sut mae'r consensws gwleidyddol ar gyrraedd sero net wedi gwanhau - os nad chwalu - ers y tro diwethaf i ni bleidleisio mewn etholiad ar gyfer y Senedd.

    Bryd hynny - yn ôl yn 2021 - roedd y DU wrthi'n paratoi i lwyfannu'r uwchgynhadledd ryngwladol ar newid hinsawdd COP26 yn Glasgow.

    Roedd Senedd Cymru wedi gosod targedau cyfreithiol yn eu lle i gyrraedd sero net erbyn 2050, a hi oedd y cyntaf yn y byd - mae'n debyg - i ddatgan argyfwng hinsawdd.

    Y tro hwn mae 'na wahaniaeth barn clir rhwng y pleidiau - Reform am gael gwared ar sero net, y Ceidwadwyr yn dweud na ddylai'r targedau "gosbi" teuluoedd a busnesau.

    Mae Plaid Cymru wedi symud o eisiau cyrraedd y nod erbyn 2035 i 2040, tra bod Llafur, y Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dal i gefnogi sero net erbyn 2050.

  6. Cefn gwlad hefyd yn bwnc llosg - a dyna bwnc y cwestiwn nesafwedi ei gyhoeddi 21:03 GMT+1 23 Ebrill

    cwestiwn
  7. 16 etholaeth y tro hwn - y rhestr yn llawnwedi ei gyhoeddi 21:03 GMT+1 23 Ebrill

    Dyma'r rhestr o'r etholaethau newydd yn llawn:

    • Bangor Conwy Môn
    • Clwyd
    • Fflint Wrecsam
    • Gwynedd Maldwyn
    • Ceredigion Penfro
    • Sir Gaerfyrddin
    • Gŵyr Abertawe
    • Brycheiniog Tawe Nedd
    • Afan Ogwr Rhondda
    • Pontypridd Cynon Merthyr
    • Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
    • Sir Fynwy Torfaen
    • Casnewydd Islwyn
    • Caerdydd Penarth
    • Caerdydd Ffynnon Taf
    • Pen-y-bont Bro Morgannwg
    Disgrifiad,

    Beth yw'r newidiadau mawr i etholiad y Senedd 2026?

  8. Methu torri trethi a gwella gwasanaethauwedi ei gyhoeddi 21:03 GMT+1 23 Ebrill

    Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

    Wrth drafod costau byw dywed arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds nad ydi’n bosib gwella gwasanaethau cyhoeddus a lleihau trethi a bod y pleidiau sy’n addo hynny yn “dweud celwydd”.

    Ychwanegodd bod ei phlaid am ddarparu mwy o ofal plant, gwella’r economi a sicrhau mwy o waith - yn enwedig i bobl ifanc.

  9. Angen 'adeiladu cymdeithas ddinesig'wedi ei gyhoeddi 21:02 GMT+1 23 Ebrill

    Plaid Werdd Cymru

    Mae Tessa Marshall o'r Blaid Werdd yn amddiffyn cefnogaeth ei phlaid i annibyniaeth, ond dywed bod angen "adeiladu cymdeithas ddinesig" (civic) yng Nghymru fel cam hanfodol tuag at y nod.

  10. 'Bron pob un o’r pleidiau yn cynnig cynlluniau i ehangu gofal plant'wedi ei gyhoeddi 21:00 GMT+1 23 Ebrill

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Wrth ateb y cwestiwn am gostau byw fe wnaeth sawl un o’r gwleidyddion grybwyll eu cynigion gofal plant ac mae wedi bod yn bwnc amlwg yn yr ymgyrch hyd yn hyn.

    Mae bron pob un o’r pleidiau yn cynnig cynlluniau i ehangu gofal plant a rhai’n bwriadu buddsoddi cannoedd o filiynau o bunnau arno.

    Trwy ymestyn gofal am ddim eu gobaith yw rhoi hwb i’r economi, helpu gyda datblygiad plant yn ogystal â rhoi mwy o arian ym mhocedi teuluoedd.

    Ond roedd yna wrthdaro am ba mor fforddiadwy ac ymarferol yw rhai o’r cynigion.

  11. Rhybudd yn erbyn costau annibyniaethwedi ei gyhoeddi 20:59 GMT+1 23 Ebrill

    Ceidwadwyr Cymreig

    Rhybuddio yn erbyn costau annibyniaeth y mae Paul Davies, dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

    Mae ei blaid wedi addo gwyrdroi'r cynnydd yn nifer yr ASau o 60 i 96.

  12. 'Llafur yw plaid datganoli'wedi ei gyhoeddi 20:58 GMT+1 23 Ebrill

    Llafur Cymru

    Dywed arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan, mai "Llafur yw plaid datganoli" a'i bod hi eisiau ehangu pwerau'r Senedd, ond ei bod yn chwyrn yn erbyn annibyniaeth.

  13. Barn y bobl ifanc am y ddadl hyd yma?wedi ei gyhoeddi 20:57 GMT+1 23 Ebrill

    Mae criw Jomec, Prifysgol Caerdydd wedi bod yn rhannu eu hargraffiadau cyntaf am y ddadl.

    "Mae Reform yn dod ar draws lot gwell na’g yn y dadleuon blaenorol, ac mae hwnna’n dod ar draws yn ymateb positif y gynulleidfa i Reform.

    "Ni’n teimlo fel bod dim digon o herio yn cael ei wneud tuag at Reform, a taw Llafur yw’r ffocws."

    Rhai o fyfyrwyr JOMEC, Prifysgol Caerdydd sy'n bresennol heno
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhai o fyfyrwyr JOMEC, Prifysgol Caerdydd sy'n bresennol heno

  14. 'Dim ceiniog' ar annibyniaethwedi ei gyhoeddi 20:55 GMT+1 23 Ebrill

    Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

    Dywed arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, nad yw hi eisiau gweld unrhyw arian yn cael ei wario ar annibyniaeth.

    "Dim ceiniog" ar hynny, meddai, "mae hynny'n llinell goch".

    arianFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Plaid Cymru yn cael eu herio am ariannuwedi ei gyhoeddi 20:55 GMT+1 23 Ebrill

    Cemlyn Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Unwaith eto mae Rhun ap Iorwerth wedi gwrthod dweud o ble byddai'r arian yn dod i ariannu prif bolisi ei blaid o ehangu gofal plant.

    Mae e'n mynnu bod symiau Plaid Cymru yn gywir, ond heb gyhoeddi'r ffigyrau i etholwyr gael eu gweld.

    Mae'n hawdd i'r pleidiau eraill gyhuddo Plaid Cymru o gelu'r gwir am ble y byddai'r fwyell yn cwympo.

    Mae Eluned Morgan wedi manteisio ar y cyfle yna'n barod heno.

    Rhaid nodi nad oes yr un blaid wedi cyhoeddi eu costau, er bod Reform wedi dweud heddiw y byddai'r blaid honno'n gwneud hynny os ydy Plaid Cymru yn arwain y ffordd.

  16. O'r stafaell sbin: 'Dim syndod' fod y ffocws ar iechydwedi ei gyhoeddi 20:53 GMT+1 23 Ebrill

    Gohebydd gwleidyddol Golwg, Rhys Owen, sy'n rhannu ei farn hyd yma.

    Disgrifiad,

    Cafodd y chwe gwleidydd eu holi am iechyd ar ddechrau'r ddadl

  17. 'Dim angen rhagor o bwerau ar y Senedd'wedi ei gyhoeddi 20:52 GMT+1 23 Ebrill

    Reform UK

    "Does dim angen rhagor o bwerau ar y Senedd" meddai Helen Jenner, dirprwy arweinydd Reform UK yng Nghymru, "byddai hynny'n gwneud pethau yn fwy cymhleth".

    Mae angen canolbwyntio ar faterion dydd i ddydd fel costau byw, meddai.

  18. 'Camau' i gynyddu pwerau'r Seneddwedi ei gyhoeddi 20:50 GMT+1 23 Ebrill

    Plaid Cymru

    Dywed arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, bod 'na' "gamau" i gynyddu pwerau'r Senedd, trwy gael pwerau dros reilffyrdd, yr heddlu ac adnoddau naturiol.

    Mae'n dweud nad yw pobl yn barod am annibyniaeth ar hyn o bryd ond ei fod yn barod i ddangos arweinyddiaeth.

    SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Beth yw datganoli, a pha bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru?wedi ei gyhoeddi 20:49 GMT+1 23 Ebrill

    Beth yw datganoli, a pha bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru?

    Dyma'r rapiwr Sage Todz a BBC Bitesize i egluro.

    Gwybodaeth hefyd am beth sy'n newid yn etholiad y Senedd yn 2026, a pham ei bod yn bwysig pleidleisio.

    Ddim yn siŵr ym mha etholaeth fyddwch chi'n pleidleisio? Ewch yma.

    Mae canllaw i'r 16 etholaeth hefyd ar gael yma, ac mae'r r manylion am bwy sy'n sefyll yn eich etholaeth chi yma.

    Disgrifiad,

    Beth yw datganoli, a pha bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru?

  20. Rhewi rhenti i denantiaid sy'n rhentu'n breifat?wedi ei gyhoeddi 20:47 GMT+1 23 Ebrill

    Cemlyn Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Wrth gyfrannu i'r drafodaeth ar gostau byw mae Tessa Marshall yn dweud y byddai'r Blaid Werdd yn rhewi rhenti i denantiaid sy'n rhentu'n breifat.

    Dyma brif flaenoriaeth y blaid ac fe allai'r polisi fod yn ganolog i unrhyw drafodaethau ar gydweithio'n dilyn yr etholiad.

    Mae yna ddyfalu wedi bod y gallai'r Gwyrddion weithio gyda Phlaid Cymru er enghraifft.

    Mae Plaid Cymru hefyd yn addo cyflwyno mesurau i warchod rhentwyr.

    Ond fel mae eraill ar y panel, yn ogystal ag aelodau o'r gynulleidfa wedi ei nodi, mae rhai'n poeni y byddai rhewi rhenti yn annog arglwyddi tir i werthu eu tai, gan arwain at brinder cartrefi yn y pen draw.