Crynodeb

  • Bethan Rhys Roberts fu'n cyflwyno panel o wleidyddion, ac yn rhoi cyfle i'r gynulleidfa eu holi

  • Ar y panel roedd Prif Weinidog ac arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan, Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, Paul Davies, Dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Helen Jenner, Dirprwy arweinydd Reform UK yng Nghymru, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds a Tessa Marshall o'r Blaid Werdd

  • Cyfle hefyd i glywed barn gohebwyr a sylwebyddion o'r 'Stafell Sbin

  • Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar 7 Mai

  • Crynodeb syml o safbwyntiau'r prif bleidiau ar y materion sydd bwysicaf i bleidleiswyr

  • Yn ystod y ddadl cryn sylw i iechyd, costau byw, pwerau'r Senedd ac amaeth

  1. 'Digon o bres' a gwadu preifateiddiowedi ei gyhoeddi 20:12 GMT+1 23 Ebrill

    Reform UK

    "Mae digon o bres" yn mynd i'r GIG meddai Helen Jenner, dirprwy arweinydd Reform UK yng Nghymru, "ond nid yw'n mynd i'r rheng flaen" mae'n cael ei "gamreoli".

    Mae'n gwadu bod unrhyw fwriad i breifateiddio'r GIG gan Reform.

  2. 'Argyfwng' yn y gwasanaeth iechydwedi ei gyhoeddi 20:09 GMT+1 23 Ebrill

    Plaid Cymru

    Mae "argyfwng" yn y gwasanaeth iechyd, meddai arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

    "Mae angen gwasanaeth llawer mwy cynaliadwy", meddai, gan gynnwys sefydlu hybiau llawdriniaeth, un o ymrwymiadau'r blaid.

  3. 'Cyfle i gynrychiolwyr y gwrthbleidiau ymosod ar record Llafur'wedi ei gyhoeddi 20:08 GMT+1 23 Ebrill

    Cemlyn Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Gyda'r cwestiwn cyntaf ar y gwasanaeth iechyd, o'r dechrau mae yna gyfle i gynrychiolwyr y gwrthbleidiau ymosod ar record Llafur mewn grym - yn enwedig o gofio'r ystadegau diweddaraf gafodd eu cyhoeddi bore 'ma.

    Gallwn ni ddisgwyl i'r feirniadaeth yma fod yn thema gyson drwy gydol y ddadl heno, o gofio bod Llafur wedi arwain Llywodraeth Cymru ers dechrau datganoli.

    Rôl Eluned Morgan heno felly fydd amddiffyn perfformiad ei phlaid dros y 27 mlynedd diwethaf a cheisio darbwyllo etholwyr bod Llafur yn haeddu cyfle arall wrth y llyw.

  4. Rhestrau aros - 'Ffordd i fynd'wedi ei gyhoeddi 20:07 GMT+1 23 Ebrill

    Llafur Cymru

    Dywedodd y prif weinidog ac arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan, eu bod "yn falch o weld rhestrau aros yn dod i lawr am naw mis yn olynol".

    Ond dywed ei bod yn cydnabod bod "ffordd i fynd" a bod rhaid dod â gofal mewn coridorau i ben.

    Mae "pwysau aruthrol ar y gwasanaeth iechyd", meddai.

  5. Iechyd yn un o bynciau llosg ymgyrch etholiad Senedd 2026wedi ei gyhoeddi 20:06 GMT+1 23 Ebrill

    Heb os, iechyd yw un o bynciau llosg etholiad y Senedd 2026.

    Yn ystod cyhoeddi eu maniffesto mae rhestrau aros wedi cael cryn sylw gan bob plaid.

    Mae modd gweld polisi y prif bleidiau ar iechyd yma.

    iechydFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Y rhestrau aros am driniaeth sy'n cael sylw Ellis Wyn Brodrickwedi ei gyhoeddi 20:04 GMT+1 23 Ebrill

    Ellis Wyn Brodrick sy'n gofyn y cwestiwn cyntaf heno
    Disgrifiad o’r llun,

    Ellis Wyn Brodrick ofynnodd y cwestiwn cyntaf heno

  7. Mae modd gweld a chlywed Y Ddadl Fawr - yn fywwedi ei gyhoeddi 20:03 GMT+1 23 Ebrill

    Os am weld y rhaglen cliciwch ar frig y dudalen hon ⬆️ - mae Y Ddadl Fawr hefyd i'w chlywed ar Radio Cymru drwy glicio uchod.

    y ddadl fawr
  8. Mae'r cwestiwn cyntaf yn canolbwyntio ar iechyd - un o bynciau llosg yr ymgyrchuwedi ei gyhoeddi 20:03 GMT+1 23 Ebrill

    Cwestiwn
  9. Mae'r gwleidyddion wedi cyrraedd ac yn barod am Y Ddadl Fawrwedi ei gyhoeddi 19:58 GMT+1 23 Ebrill

    Mae'r gwleidyddion wedi cyrraedd ac yn barod am Y Ddadl Fawr. Bethan Rhys Roberts fydd yn eu holi.

    Mae'r drafodaeth ar fin cychwyn!

    gldddnFfynhonnell y llun, bbc
  10. Un bleidlais fydd gan etholwyr y tro hwnwedi ei gyhoeddi 19:47 GMT+1 23 Ebrill

    Ar 7 Mai dim ond un bleidlais fydd gan etholwyr, a fydd dim cyfle i gefnogi ymgeisydd penodol (heblaw bod yr ymgeisydd yn sefyll yn annibynnol).

    Yn hytrach, bydd pleidleiswyr ond yn gallu dewis plaid.

    Ym mhob un o'r 16 o etholaethau bydd gan bob plaid restr o ymgeiswyr.

    Bydd y nifer o ymgeiswyr sy'n cael eu hethol o restr pob plaid yn dibynnu ar y gyfran o'r bleidlais mae'r blaid wedi ei hennill.

    Y pleidiau eu hunain sydd wedi penderfynu sut maen nhw'n llunio'u rhestrau o ymgeiswyr.

    Pan ddaw'r etholiad fydd etholwyr yn methu dewis a dethol yr unigolion yr hoffen nhw eu hethol.

    gorsaf
  11. Myfyrwyr yn barod i glywed atebion gan y gwleidyddionwedi ei gyhoeddi 19:42 GMT+1 23 Ebrill

    Mae grŵp o fyfyrwyr newyddiaduraeth o Brifysgol Caerdydd yn edrych ymlaen i glywed ymateb y gwleidyddion i gwestiynau'r gynulleidfa.

    Disgrifiad,

    Mae'r criw wedi teithio o Gaerdydd i fod yn rhan o'r gynulleidfa

  12. Maniffesto Reform - uwchraddio ffyrdd, newid Cynllun Ffermio Cynaliadwy a thrwsio'r GIGwedi ei gyhoeddi 19:36 GMT+1 23 Ebrill

    Reform UK

    maniffesto

    Addawodd Reform uwchraddio ffyrdd allweddol gan gynnwys ffordd liniaru'r M4 yn ne Cymru a'r A55 yng ngogledd Cymru.

    Yn ystod y lansiad dywedodd yr arweinydd yng Nghymru, Dan Thomas, nad oedd e'n credu mewn "targedau mympwyol" ar gyfer y Gymraeg oherwydd ei bod hi'n gwneud yn dda iawn yn organig.

    Mae Reform yn addo newid Cynllun Ffermio Cynaliadwy dadleuol y llywodraeth bresennol - gan symud at daliadau sy'n "caniatau i ffermwyr ffermio", yn hytrach na chanolbwyntio ar dargedau amgylcheddol.

    Byddai ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am fagu da byw tra byddai 'na gynllun gwirfoddol i dalu am waith amgylcheddol, gan roi dewis i ffermwyr prun ai i ymwneud â hynny ai peidio.

    Helen JennerFfynhonnell y llun, Reform UK
    Disgrifiad o’r llun,

    Cynrychiolydd Reform ar y panel heno yw Helen Jenner, Dirprwy arweinydd Reform UK yng Nghymru

    Mae'r maniffesto yn datgan fod y blaid wedi ymrwymo i wasanaeth iechyd, yng Nghymru, sy'n rhad ac am ddim i gleifion ar yr adeg y maen nhw ei angen.

    Ond mae 'na gydnabyddiaeth hefyd fod angen newidiadau i "drwsio system sydd wedi torri".

    Cynrychiolydd Reform ar y panel heno yw Helen Jenner, Dirprwy arweinydd Reform UK yng Nghymru.

  13. Bwrlwm yn 'Y Galon' - llai na hanner awr i fyndwedi ei gyhoeddi 19:34 GMT+1 23 Ebrill

    Mae'r gynulleidfa bellach yn eistedd yn 'Y Galon' ac yn aros yn eiddgar i gynrychiolwyr y pleidiau i gyrraedd.

    y ddadl fawr
    Disgrifiad o’r llun,

    Dyma lle fydd y panelwyr yn sefyll

    y gynulleidfa
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r gynulleidfa yn barod!

  14. Beth mae Aelod o'r Senedd yn ei wneud?wedi ei gyhoeddi 19:28 GMT+1 23 Ebrill

    Beth mae Aelodau Senedd Cymru yn ei wneud? Pa ddyletswyddau sydd ganddyn nhw?

    BBC Bitesize sydd yn esbonio.

    Disgrifiad,

    Beth mae Aelod o'r Senedd yn ei wneud?

  15. Maniffesto Plaid Cymru - iechyd, tâl tlodi, gofal plant a dim annibyniaeth yn sythwedi ei gyhoeddi 19:23 GMT+1 23 Ebrill

    Plaid Cymru

    maniffesto

    Y gwasanaeth iechyd a chostau byw gafodd sylw pennaf yr arweinydd, Rhun ap Iorwerth, wrth lansio maniffesto'r blaid ddechrau Ebrill.

    Mae'r blaid yn addo na fydd unrhyw un yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth o fewn blwyddyn o lywodraeth Plaid Cymru.

    Mae Rhun ap Iorwerth hefyd yn addo dod â rhestrau aros cyffredinol y gwasanaeth iechyd lawr i lle'r oedden nhw cyn y pandemig o fewn y tymor seneddol nesa'.

    Er mwyn helpu gyda'r gwaith hwnnw, mae addewid o sicrhau 100 o feddygon teulu newydd i helpu gyda gofal y tu hwnt i oriau gwaith arferol, a 10 canolfan lawfeddygol newydd.

    Rhun ap Iorwerth arweinydd Plaid Cymru, fydd yn cynrychioli'r blaid ar y panel henoFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhun ap Iorwerth arweinydd Plaid Cymru, fydd yn cynrychioli'r blaid ar y panel heno

    Mae'r blaid yn addo ymestyn y cynnig gofal plant fel bod 20 awr yr wythnos am ddim i bob plentyn o naw mis i bedair oed, yn y pen draw. Maen nhw hefyd yn addo peilot tâl tlodi plant o £10 yr wythnos i 15,000 o blant mewn cartrefi incwm isel, a chynnig cinio ysgol am ddim i bob plentyn ysgol uwchradd sy'n dod o deulu ar Gredyd Cynhwysol.

    Mae'r maniffesto yn addo gwella hawliau pobl sy'n rhentu, gan atal landlordiaid rhag gyrru tenantiaid o'u tai heb reswm dilys.

    O ran annibyniaeth ni fydd refferendwm o fewn tymor cyntaf llywodraeth Plaid Cymru, yn ôl addewid Rhun ap Iorwerth.

    Rhun ap Iorwerth arweinydd Plaid Cymru, fydd yn cynrychioli'r blaid ar y panel heno.

  16. Gobeithio 'dysgu mwy am y maniffestos'wedi ei gyhoeddi 19:16 GMT+1 23 Ebrill

    Mae rhai o fyfyrwyr JOMEC, Prifysgol Caerdydd, wedi cyrraedd y 'Stafell Sbin erbyn hyn.

    Dywedodd Sami fod heno yn "gyfle arbennig ac mae'n neis bod rhywbeth fel hyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.

    "Mae e'n gyfle da i newyddiadurwyr ifanc i gael y cyfle i brofi sut mae pethau yn gweithio."

    Dywedodd ei fod yn gobeithio gallu "dysgu bach mwy am y maniffestos achos chi ddim mo'yn treulio oriau yn edrych trwy bob un, felly bydd e'n good i gael golwg dda o brif fwriadau pob plaid a gobeithio falle sylweddoli beth mae pobl eisiau gwneud pan maen nhw'n ennill".

    Sami a Beca sy'n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Sami a Beca sy'n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd

    Roedd Beca o'r ail flwyddyn o'r farn bod 'na "ddiffyg dealltwriaeth o fewn ein hoedran ni o ran beth sy'n mynd ymlaen efo gwleidyddiaeth achos dwi'n 'nabod cwpwl o bobl sydd ddim am bleidleisio oherwydd bo' nhw'n teimlo falle bod dim gyda nhw ddigon o ymwybyddiaeth o faterion gwleidyddol.

    "Ond dwi'n meddwl bod o'n bwysig bod pethau fel 'ma yn digwydd a bod nhw'n cael gwell dealltwriaeth o beth sy'n mynd ymlaen."

    Roedd yn gobeithio clywed y gwleidyddion yn trafod "addysg, materion economaidd, pethau sydd am effeithio ni yn y dyfodol".

  17. Maniffesto'r Ceidwadwyr - torri trethi, gwahardd ffonau mewn ysgol ac adeiladu ffyrddwedi ei gyhoeddi 19:09 GMT+1 23 Ebrill

    Ceidwadwyr Cymreig

    maniffestoFfynhonnell y llun, Athena Pictures

    Y Ceidwadwyr Cymreig oedd y cyntaf i lansio eu maniffesto.

    Mae'r maniffesto yn gwneud addewidion mawr i dorri trethi - byddai treth incwm yn cael ei thorri 1c yn y gyfradd sylfaenol, meddai'r Torïaid, gan arbed £450 y flwyddyn i deuluoedd.

    Byddai'r blaid hefyd yn torri'r dreth trafodiadau tir ar gyfer pob prif gartref ac yn dileu trethi busnes ar gyfer busnesau bach.

    O ran iechyd mae'r blaid hefyd yn addo clirio'r ôl-groniad amseroedd aros yn y GIG erbyn diwedd tymor y Senedd yn 2030, ac ailagor wardiau sydd wedi cau ar unwaith.

    Mae'r Torïaid yn dweud hefyd y byddent yn adfer cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4, a gafodd ei rhoi o'r neilltu gan y cyn-brif weinidog Mark Drakeford yn 2019.

    Paul DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Cynrychiolydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y panel heno yw Paul Davies, Dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig

    Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi addo gwahardd ffonau symudol mewn ysgolion.

    Maen nhw'n dweud hefyd y bydden nhw'n gwrthdroi'r cynnydd yn nifer aelodau'r Senedd, sydd i ddod i rym eleni, o 96 i 60. Mae'r blaid yn dweud y byddai hyn yn arbed £20m y flwyddyn.

    Cynrychiolydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y panel heno yw Paul Davies, Dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

  18. Canllaw i'r 16 etholaeth newydd ar gyfer etholiad y Seneddwedi ei gyhoeddi 19:04 GMT+1 23 Ebrill

    Mae'r etholaethau - yr ardal ble rydych chi'n pleidleisio er mwyn dewis eich cynrychiolwyr gwleidyddol - i gyd yn newydd.

    Bydd gan Gymru nawr 16 etholaeth fawr ar gyfer y Senedd, pob un ag enwau uniaith Gymraeg.

    Os ydych chi dros 16 oed ac wedi cofrestru i bleidleisio, bydd gennych chi un bleidlais - ar gyfer plaid fydd hyn, nid unigolyn, oni bai bod y person yn ymgeisydd annibynnol.

    Bydd chwe Aelod o'r Senedd (AS) yn cael eu hethol ym mhob etholaeth i gynrychioli'r ardal honno.

    Felly beth yw'r etholaethau newydd, a beth yw'r materion gwahanol sy'n wynebu pob un?

    Sgroliwch trwy'r cardiau yma am ganllaw i'r cyfan.

    logoFfynhonnell y llun, bbc
  19. Maniffesto Llafur - codi ysbytai, mwy o brentisiaethau a gwersi Cymraeg am ddimwedi ei gyhoeddi 18:57 GMT+1 23 Ebrill

    Llafur Cymru

    maniffesto llafurFfynhonnell y llun, Athena

    Fe lansiodd y Blaid Lafur eu maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd ddiwedd Mawrth.

    Mae mwy yn cael ei wario gan Lywodraeth Cymru ar y GIG nag ar unrhyw beth arall, o bell ffordd, oedd neges Eluned Morgan ac fe addawodd £4bn dros y ddegawd nesaf i godi ysbytai newydd.

    Addewid arall oedd y gallai pawb ddisgwyl gweld meddyg teulu o fewn 48 awr os oes ganddyn nhw broblem na all aros.

    Roedd yna addewid hefyd na fyddai newidiadau i'r dreth incwm.

    Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Eluned Morgan, Prif Weinidog ac arweinydd Llafur Cymru, fydd yn cynrychioli ei phlaid heno

    Roedd yna addewid hefyd o ffordd "decach" o ariannu cynghorau lleol, 100,000 mwy o brentisiaethau gyda'r ffocws ar y diwydiant adeiladu a'r sector ynni adnewyddadwy ac ehangu darpariaeth gwersi Cymraeg am ddim.

    Eluned Morgan, Prif Weinidog ac arweinydd Llafur Cymru, fydd yn cynrychioli ei phlaid heno.

  20. Sut fydd dy bleidlais di yn cyfrif o dan y drefn newydd?wedi ei gyhoeddi 18:52 GMT+1 23 Ebrill

    Beth yw D'Hondt?

    Beth sy'n newid eleni yn Etholiad Senedd Cymru 2026?

    Sut fydd dy bleidlais di yn cyfrif o dan y drefn newydd?

    Sage Todz a Bitesize sydd yn egluro.

    Disgrifiad,

    Beth yw D'Hondt? Beth sy'n newid eleni yn Etholiad Senedd Cymru 2026?