Ple am luniau 11 o 'filwyr coll' o Gymru yn yr Iseldiroedd

Aeth Margaret i gwrdd â'r bobl sydd wedi mabwysiadu bedd ei thad yn yr Iseldiroedd
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid sicrhau nad yw milwyr o Gymru, sydd wedi'u claddu mewn mynwent yn yr Iseldiroedd, yn "mynd yn angof", yn ôl gwirfoddolwyr.
Mae ymgyrchwyr yn nhref Venray yn ne-ddwyrain y wlad yn chwilio am luniau i'w gosod ar feddau mwy na 600 o filwyr o Brydain a gafodd eu lladd yn yr Ail Ryfel Byd.
Mae cannoedd eisoes wedi'u darganfod, ond mae'r gwaith o chwilio am y gweddill yn heriol.
Mae 11 o filwyr o Gymru yn dal heb lun, yn ôl Theo Vervoot, sy'n gwirfoddoli gyda Sefydliad Mabwysiadu Beddau Mynwent Ryfel Venray, dolen allanol.
"Mae carreg gyda llun yn dweud llawer mwy wrthoch. Mae'n gofeb i'r dyn," meddai wrth BBC Cymru.
"Rydym yn chwilio am y lluniau oherwydd ddylen ni ddim eu hanghofio. Fe wnaethon nhw roi eu bywydau er mwyn ein rhyddid ni, ac ry'n ni mewn dyled iddyn nhw am hynny."
'Mae'n golygu popeth'
Un o'r milwyr sydd wedi ei gladdu yn Venray yw Maynard Powell, aelod o'r Gwarchodlu Cymreig, a fu farw ym mis Tachwedd 1944.
Dim ond 10 mis oed oedd ei ferch, Margaret Colbeck, 82, o Princetown, Blaenau Gwent, ar y pryd.
"Mae'n golygu popeth, mae'n dod â chymaint o gysur, meddwl bod gofal yn cael ei roi i'r beddau," meddai.

Roedd ymweld â bedd ei thad yn "brofiad mor emosiynol" meddai Margaret Colbeck
"Rydw i wastad wedi gwybod bod fy nhad wedi'i gladdu yno, ond wrth gwrs, mae yna lawer iawn o bobl sydd ddim yn gwybod o hyd."
Dywedodd iddi gael "sioc" ar ôl i wirfoddolwr o'r Iseldiroedd gysylltu â hi ar Facebook.
"Roedd e eisiau gwybod yr holl gefndir, hanes y teulu, a gweld lluniau," meddai.
"Ces i syrpreis hyfryd y Nadolig hwn, pan wnaeth fy wyrion, Mia a Joseph, ddweud eu bod nhw'n mynd i fynd â fi i Venray i weld bedd fy nhad. Roedd yn brofiad mor emosiynol."

Aeth Mia a Joseph i'r Iseldiroedd i weld bedd eu hen dad-cu
Dywedodd Joseph Colbeck-Jones, 26, o Aberdâr fod y trip i weld bedd ei hen dad-cu yn "anhygoel".
"Dwi wastad wedi clywed storïau am hen dad-cu fi pan oeddwn i'n ifanc, ac roedden ni wastad wedi siarad am yrru allan," meddai.
"Ma' hyn wedi dod â heddwch i Mam-gu nawr."
Ychwanegodd ei chwaer, Mia, fod y teulu yn ddiolchgar i'r gwirfoddolwyr am eu gwaith.
"Maen nhw'n cymryd gofal o'r bedd, glanhau e, arddangos lluniau ar ddydd y cofio, ac ymchwilio i hanes y milwyr a chysylltu â'r teuluoedd," dywedodd.
"Os oes rhywun yn adnabod yr enwau, mae'n bwysig iawn i gysylltu, oherwydd mae'n bwysig i addysgu cenedlaethau'r dyfodol am beth wnaeth y milwyr hyn yn y rhyfel."

Mae James Bumster o Abertawe wedi ei gladdu yn y fynwent yn Venray
Fe wnaeth hi gymryd degawdau i Margaret Jones, 85, o Abertawe, ddarganfod bod ei thad, James Bumster, wedi ei gladdu yn Venray.
Dywedodd ei fod yn "meddwl y byd" bod y gwirfoddolwr, Theo Vervoort, wedi mabwysiadu'r bedd.
"I Margaret, o'dd hi wedi gweithio ers blynyddoedd i drial ffeindio mas ble o'dd e, a fel odd e wedi marw," dywedodd ei mab-yng-nghyfraith, Hywel Vickers o Rydaman.
"Wedyn i weld e fan 'na, roedd e'n beth mawr i fi ac i'r teulu i gyd."
Dywedodd eu bod nhw mor ddiolchgar i'r gwirfoddolwyr am eu gwaith.
"Mae e'n rhoi lot o bleser i ni i wybod, bod nhw, mewn ffordd, yn saff a bod rhywun yn edrych ar ôl y bedd.
"Mae e'n meddwl lot fawr i'r teulu."

Theo Vervoort sydd wedi mabwysiadu bedd James Bumster
Dywedodd Theo Vervoort ei fod yn ymweld â'r fynwent bob wythnos, a'i fod yn teimlo'n drist bod rhai milwyr heb gael eu hadnabod.
"Mae'n golygu nad yw'r teuluoedd yn gwybod ble mae eu bechgyn," meddai.
"Tu ôl i bob bedd mae stori wirioneddol drist. Mae'r rhai ieuengaf yn 17 ac 18 oed, ac mae rhai yn dadau ifanc hefyd.
"Dechreuon ni yn 2020 ac rydyn ni wedi dod o hyd i 440 o luniau bellach, ac mae'n mynd yn fwy a mwy heriol.
"Mae gennym ni lawer o ffrindiau yn y DU sy'n ein helpu, ac maen nhw'n bobl dda iawn sy'n chwilio mewn archifau, yn edrych drwy bapurau newydd ac yn ymweld â pherthnasau.
"Mae'n rhoi teimlad mor dda i chi. Mae'n deimlad arbennig."
Pwy yw'r milwyr coll?

Mae'r gwirfoddolwyr yn chwilio am wybodaeth a lluniau 11 o filwyr o Gymru, sef:
Edward David Davies, Caerfyrddin
Mervyn Hopkin Davies, Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr
Joseph Frederick Davies, Aberpennar, Rhondda Cynon Taf
Evan Owen Davies, Wrecsam
Albert Joseph Harries, Hwlffordd, Sir Benfro
William Edgar Large, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf
Norman Peter Lilja, Caerffili
William Burne O'Donnell, Morgannwg
Frederick Sydney Scott, Morgannwg
Albert Henry Wheeler, Clydach, Sir Fynwy
David George Williams, Abertawe
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.