Eisteddfod 2026: Cyflwyno Gwobr Goffa Daniel Owen

Medal Daniel OwenFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Medal Gwobr Goffa Daniel Owen yn cael ei rhoi am nofel gyda llinyn storïol cryf heb fod yn llai na 50,000 o eiriau

  • Cyhoeddwyd

Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen fydd prif ddefod llwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ddydd Mawrth.

Mae'r wobr yn cael ei rhoi am nofel heb ei chyhoeddi heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

Os bydd teilyngdod, bydd y nofelydd buddugol yn ennill medal a £5,000 sy'n rhoddedig gan bobl ardal y Preseli er cof am Martin a Meryl Lloyd, Cilgerran.

Y beirniaid eleni yw Llwyd Owen, Geraint Evans a Meinir Wyn Edwards, a Nic Parry fydd yn arwain y seremoni.

Y llynedd fe ddenodd y gystadleuaeth 14 ymgais a'r enillydd oedd Peredur Glyn am ei nofel 'Anfarwol'.

Peredur Glyn - enillydd Medal Daniel Owen yn Eisteddfod Wrecsam 2025
Disgrifiad o’r llun,

Peredur Glyn - enillydd Medal Daniel Owen yn Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae cynnyrch llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn boblogaidd gyda darllenwyr, ac yn hwb enfawr i'r diwydiant llyfrau yng Nghymru.

Ym mis Chwefror 2021 dywedodd y Cyngor Llyfrau bod colli cyfrolau'r Eisteddfod - Y Rhaglen, Y Cyfansoddiadau, Y Fedal a'r Daniel Owen - wedi costio oddeutu £100,000 yn ei gyfanrwydd i'r diwydiant llyfrau yn 2020 yn sgil y pandemig.

LLyfrau ar y Brig ym Medi 2025Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

Fe fydd y seremoni yn cael ei chynnal am 16:00.

Ni fydd yr orsedd yn rhan o'r seremoni.

Ewch yma am fwy o straeon o'r Eisteddfod Genedlaethol.