Y Cymro fydd yn chwarae yng Nghwpan y Byd 2026

Finn Surman a MessiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Finn Surman yn brwydro am y bêl gydag un o fawrion y gêm, Lionel Messi

GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Bydd Cwpan y Byd yn dechrau ar 11 Mehefin, gyda 48 o dimau'n cystadlu yng Ngogledd America dros gyfnod o chwe wythnos.

Mecsico v De Affrica fydd y gêm gyntaf, yn Estadio Azteca, Dinas Mecsico, gyda'r rownd derfynol yn y MetLife Stadium, New Jersey, ar 19 Gorffennaf.

Bydd Cymru wrth gwrs ddim yno eleni, wedi'r golled i Bosnia-Herzegovina ar 26 Mawrth.

Ond bydd un chwaraewr a gafodd ei eni yng Nghymru yn chwarae yng Nghwpan y Byd, sef Finn Surman.

Seland Newydd v ChileFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Surman yn chwarae yn erbyn Chile, 30 Mawrth 2026

Cafodd Finn Surman ei eni yng Nghaerdydd ar 23 Medi, 2003, ond fe symudodd y teulu i Seland Newydd pan oedd yn hogyn ifanc.

Chwaraeodd Surman dros Selwyn United a Lower Hutt City AFC yn isadrannau Seland Newydd, cyn ymuno â'r Wellington Phoenix, prif dîm y wlad yn 2021.

Yna yn 2024 fe symudodd i'r Portland Timbers yn yr MLS (Major League Soccer) - prif adran bêl-droed yr Unol Daleithiau.

Mae Surnam, sy'n 22 oed ac yn chwarae fel amddiffynnwr canol, bellach wedi ennill 18 cap dros Seland Newydd gan sgorio ddwywaith.

Nid Surnam yw'r unig gysylltiad rhwng carfan Seland Newydd a Chymru, gyda'r amddiffynnwr Liberato Cacace yn chwarae dros Wrecsam, a'r chwaraewr ganol-cae, Marko Stamenić, gyda chlwb Abertawe.

ColombiaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn taclo Jhon Cordoba mewn gêm yn erbyn Colombia ar 15 Tachwedd, 2025

Wrth gwrs dydi cael chwaraewyr mewn tîm cenedlaethol sydd wedi eu geni mewn gwlad arall ddim yn rhywbeth anghyffredin - mae gan Gymru nifer o chwaraewyr gafodd eu geni tu allan i'r wlad yn y garfan.

Yng Nghwpan y Byd eleni mae 25 o'r 26 yng ngharfan Curaçao wedi eu geni yn Yr Iseldiroedd, mae 13 yng ngharfan Algeria wedi eu geni yn Ffrainc, 12 o Ffrainc yng ngharfan Haiti, chwech cafodd eu geni yn Sbaen yng ngharfan Moroco, pump o'r Almaen yng ngharfan Twrci a phedwar o Sweden yng ngharfan Irac.

Mae nifer fawr o enghreifftiau eraill hefyd, sy'n dangos natur ryngwladol pêl-droed heddiw.

Ac felly o ystyried y boen a deimlwyd pan fethodd carfan Craig Bellamy â hawlio lle yn y bencampwriaeth eleni, efallai y bydd rhyw fath o gysur yn y ffaith bod un chwaraewr cafodd ei eni yn ein prifddinas wedi ffeindio'i ffordd i Ogledd America!

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.