Un mewn ysbyty a ffyrdd wedi cau yn dilyn 'digwyddiad difrifol' yng Ngorseinon

Disgrifiad,

Aimee Thomas sydd yn yr ardal wrth i'r heddlu ymateb i 'ddigwyddiad difrifol' yng Ngorseinon

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n ymateb i "ddigwyddiad difrifol" yn ardal Gorseinon, Abertawe gydag un person wedi ei gludo i'r ysbyty a'r penderfyniad wedi'i wneud i gau nifer o ffyrdd cyfagos.

Y gred ydy bod cerbyd yn rhan o'r digwyddiad ac mae'r Gwasanaeth Ambiwlans wedi dweud bod un person yn yr ysbyty - ond mae adroddiadau lleol yn awgrymu bod person arall wedi cael ei anafu'n ddifrifol hefyd.

Mae'r heddlu'n gofyn i'r bobl leol aros yn eu tai.

Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod wedi ymateb i ddau ddigwyddiad yng Ngorseinon tua amser cinio ddydd Iau.

Mae swyddogion a hofrenyddion yr heddlu wedi cael eu galw yno, ynghyd â chriwiau ambiwlans.

Mae presenoldeb sylweddol gan yr heddlu'n parhau yn yr ardal brynhawn Iau.

Ymhlith y ffyrdd sydd wedi'u cau mae Ffordd Pen-Cae Crwn, Ffordd Cecil, Ffordd Brynteg, Ffordd Brighton a Ffordd Pontarddulais ac mae'r heddlu'n disgwyl iddyn nhw fod ar gau am beth amser.

Mae Heddlu'r De yn gofyn i bobl osgoi'r ardal a defnyddio llwybrau eraill pan fo hynny'n bosib.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig