Portreadu ysbryd cymunedol Caerdydd mewn pandemig

  • Cyhoeddwyd
Portread Dafydd TrystanFfynhonnell y llun, FOR CARDIFF
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r portread o Dafydd Trystan ar ffenestr yng Nghanolfan Capital

GanMared Ifan
Newyddion BBC Cymru

Mae 'na arddangosfa newydd ar hyd strydoedd Caerdydd sy'n ceisio cloriannu sut mae cymunedau wedi dod at ei gilydd dan amgylchiadau'r cyfnod clo.

O blith dros 100 o enwebiadau, mae portread o 10 gwirfoddolwr lleol wedi cael eu gosod ar hyd ganol y brifddinas.

Yn eu plith mae Dafydd Trystan, arweinydd cynllun gwirfoddoli yn Grangetown.

Dafydd Trystan o blaen y portread ohono
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Trystan: 'Teimlad rhyfedd, ond balch'

"Mae e'n eithaf rhyfedd ar un olwg, dwi'n edrych ar fy hun tu cefn i fi ac mae hwnna'n deimlad bach yn rhyfedd," meddai wrth raglen Newyddion S4C.

"Ond dwi yn falch iawn, nid i fi cymaint, ond i'r holl bobl sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect.

Portread Jayne WilliamsFfynhonnell y llun, FOR CARDIFF
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jayne Williams yr anrhydedd am godi arian dros Fanc Bwyd Caerdydd

"Mae 'na 173 o wirfoddolwyr wedi bod gyda ni yn helpu pobl yn Grangetown, ac i nhw mae'r gydnabyddiaeth yma, yn llawn gymaint ag yw e i fi.

"Mae pobl wedi dod at ei gilydd, mae pobl wedi wynebu argyfwng ac mae'n rhoi rhyw faint o hyder i fi, yn y sefyllfa pur erchyll hwn, mae pobl wedi dod at ei gilydd a helpu ei gilydd."

Kasim Ali o flaen ei bortreadFfynhonnell y llun, FOR CARDIFF
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Kasim Ali gydlynu ymdrechion 25 o fwytai lleol i fwydo gweithwyr iechyd

Mae'r prosiect wedi'i gydlynu gan gwmni FOR CARDIFF.

"Wnaethon ni benderfynu gweithio efo Nythan Wyburn o Gaerdydd i greu y darluniau yma," meddai Manon Eyton, llefarydd ar ran y cwmni.

"Mae Nathan yn adnabyddus ar draws y byd am greu darluniau o bobl adnabyddus, yn bennaf allan o ddeunyddiau gallwch chi ffeindio yn y tŷ, fel sôs coch, neu goffi a siocled... rhai o'r esiamplau sydd wedi cael eu defnyddio ar gyfer yr arwyr hyn.

Llun Hannah Taylor yn Arcêd y Stryd FawrFfynhonnell y llun, FOR CARDIFF
Disgrifiad o’r llun,

Fe orffennodd y fyfyrwraig nyrsio Hannah Taylor ei chwrs a gweithio trwy'r pandemig, er gwaethaf salwch teuluol difrifol

"O fewn wythnos, gafon ni dros gant o enwebiadau ac roedd o'n andros o job fynd trwyddyn nhw i gyd, i ddewis dim ond deg.

"Rydan ni'n mynd i fod yn rhannu'r enwebiadau ac mae'r wybodaeth ry'n ni wedi casglu drwy hynny yn mynd i gael ei rhannu gyda'r amgueddfa i gael cofnod o sut mae pobl wedi ymateb yn ystod y pandemig."