Meddai Jake
"Os y medri di ddawnsio a symud heb gymorth y llinynnau, mi fyddi
hyd yn oed yn well gyda nhw!"
Ond
fe ddwedodd y milwr bach "Mi fydd dal yn rhaid iddo fod yn ddewr.
Mi fydd Jangles yn glymau i gyd ymhen dim."
"Na fydd e ddim!" gwaeddodd Jake.
"Jangles fydd y clown digrifaf yn y byd! Mae pob syrcas angen
clown, Jangles fydd y clown digrifaf, ac mi fydd mor ddewr â
llew!"